Llyfr Jeremeia 2:5
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pa anwiredd a gafodd eich tadau chwi ynof fi, gan iddynt ymbellhau oddi wrthyf, a rhodio ar ôl oferedd, a myned yn ofer?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4Gwrandewch air yr ARGLWYDD, tŷ Jacob, a holl deuluoedd tŷ Israel.
Cross References
Deuteronomy 32:21Hwy a yrrasant eiddigedd arnaf â’r peth nid oedd Dduw; digiasant fi â’u hoferedd: minnau a yrraf eiddigedd arnynt hwythau â’r rhai nid ydynt bobl; â chenedl ynfyd y digiaf hwynt.
2 Kings 17:15A hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef, a’i gyfamod yr hwn a wnaethai efe a’u tadau hwynt, a’i dystiolaethau ef y rhai a dystiolaethodd efe i’w herbyn; a rhodiasant ar ôl oferedd, ac a aethant yn ofer: aethant hefyd ar ôl y cenhedloedd y rhai oedd o’u hamgylch, am y rhai y gorchmynasai yr ARGLWYDD iddynt, na wnelent fel hwynt. º
Isaiah 5:3Ac yr awr hon, preswylwyr Jerw¬salem, a gwŷr Jwda, bernwch, atolwg, rhyngof fi a’m gwinllan.
Isaiah 43:22Eithr ni elwaist arnaf, Jacob, ond blinaist arnaf, Israel. º
Jeremiah 2:31O genhedlaeth, gwelwch air yr ARGLWYDD: A fûm i yn anialwch i Israel? yn dir tywyllwch? paham y dywed fy mhobl, Arglwyddi ydym ni, ni ddeuwn ni mwy atat ti?
Jeremiah 10:14Ynfyd yw pob dyn yn ei wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd trwy y ddelw gerfiedig: canys celwydd yw ei ddelw dawdd, ac nid oes anadl ynddynt.