Llyfr Jeremeia 21:14
Ond mi a ymwelaf â chwi yn ôl ffrwyth eich gweithredoedd, medd yr ARGLWYDD; a mi a gyneuaf dân yn ei choedwig, ac efe a ysa bob dim o’i hamgylch hi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Chronicles 36:19A hwy a losgasant dŷ DDUW, ac a ddistrywiasant fur Jerwsalem; a’i holl balasau hi a losgasant hwy a thân, a’i holl lestri dymunol a ddinistriasant.
Proverbs 12:14Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo.
Isaiah 10:12A bydd, pan gyflawno yr Arglwydd ei holl waith ym mynydd Seion, ac yn Jerwsalem, yr ymwelafa ffrwyth mawredd calon brenin Assur, ac a gogoniant uchelder ei lygaid ef: º
Isaiah 24:21Yr amser hwnnw yr ymwêl yr AR¬GLWYDD â llu yr uchel, yr hwn sydd yn yr uchelder, ac a brenhinoedd y ddaear ar y ddaear. º
Isaiah 37:24Trwy law dy weision y ceblaist yr Arglwydd, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y deuthum i fyny i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd, a’i ddewis ffynidwydd; af hefyd i’w gŵr uchaf, ac i goed ei ddoldir. º
Jeremiah 6:29Llosgodd y fegin; gan dân y darfu y plwm; yn ofer y toddodd y toddydd: canys ni thynnwyd y rhai drygionus ymaith.