The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 21

1Ygair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, pan anfonedd y brenin Sedeceia ato ef Pasur mab Melcheia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, gan ddywedyd, º

2Ymofyn, atolwg, a’r ARGLWYDD drosom ni, (canys y mae Nebuchodonosor brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn ni,) i edrych a wna yr ARGLWYDD a ni yn ôl ei holl ryfeddodau, fel yr elo efe i fyny oddi wrthym ni. º

3Yna y dywedodd Jeremeia wrthynt Fel hyn y dywedwch wrth Sedeceia, º

4Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Wele fi yn troi yn eu hôl yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo, y rhai yr ydych yn ymladd â hwynt yn erbya. brenin Babilon, ac yn erbyn y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch o’r tu allan i’r gaer, a mi a’u casglaf hwynt i ganol y ddinas hon. º

5A mi fy hun a ryfelaf i’ch erbyn â llaw estynedig, ac a braich gref, mewn. soriant, a llid, a digofaint mawr. º

6Trawaf hefyd drigolion y ddinas hem, yn ddyn, ac yn anifail: byddant feirw o haint mawr. º

7Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i weision, a’r bobl, a’r rhai a weddillir yn y ddinas hon, gan yr haint, gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: ac efe a’u tery hwynt â min y cleddyf; lu thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chymer drugaredd. º

8Ac with y bobl hyn y dywedi. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn rhoddi ger eich bron ffordd einioes, a ffordd angau. º

9Yr hwn a drigo yn y ddinas hon a leddir gan y cleddyf, a chan y newyn, a chan yr haint; ond y neb a elo allan, ac a gilio at y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch, a fydd byw, a’i einioes fydd yn ysglyfaeth iddo. º

10Canys mi a osodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg, ac nid er * da, medd yr ARGLWYDD: yn llaw brenin Babilon y rhoddir hi, ac efe a’i llysg hi ‘a than. º

11Ac am dy brenin Jwda, dywed, Gwrandewch air yr ARGLWYDD. º

12O dŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Bernwch uniondeb y bore, ac achubwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr, rhag i’m llid dorri allan fel tân, a llosgi fel na allo neb ei ddiffodd, oherwydd drygioni eich gweithredoedd. º

13Wele fi yn dy erbyn, yr hon wyt yn preswylio y dyffryn, a chraig y gwastadedd, medd yr ARGLWYDD; y rhai a ddywedwch, Pwy a ddaw i waered i’n herbyn? neu, Pwy a ddaw i’n hanheddau? º

14Ond mi a ymwelaf â chwi yn ôl ffrwyth eich gweithredoedd, medd yr ARGLWYDD; a mi a gyneuaf dân yn ei choedwig, ac efe a ysa bob dim o’i hamgylch hi.

← Llyfr Jeremeia 20Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 22 →

Study Llyfr Jeremeia 21

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152