Llyfr Jeremeia 27:13
Paham y byddwch feirw, ti a’th bobl, trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, fel y dywedodd yr ARGLWYDD yn erbyn y genedl ni wasanaethai frenin Babilon? º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Proverbs 8:36Ond y neb a becho yn fy erbyn, a wna gam â’i enaid ei hun: fy holl gaseion a garant angau.
Jeremiah 27:8Ond y genedl a’r deyrnas nis gwasanaetho ef, sef Nebuchodonosor brenin Babilon, a’r rhai ni roddant eu gwddf dan iau brenin Babilon; â’r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, yr ymwelaf â’r genedl honno, medd yr ARGLWYDD, nes i mi eu difetha hwynt trwy ei law ef. º
Jeremiah 38:20A Jeremeia a ddywedodd, Ni roddant ddim: gwrando, atolwg, ar lais ye ARGLWYDD, yr hwn yr ydwyf fi yn ei draethu i ti; felly y bydd yn dda i ti, a’th enaid a fydd byw.! º
Ezekiel 18:24Ond pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a gwneuthur yn ol yr holl ffieidd-dra a wnelo yr annuwiol; a fydd efe byw? ni chofir yr holl gyfiawnderau a wnaeth efe: yn ei gamwedd yr hwn a wnaeth, ac yn ei bechod a bechodd, ynddynt y bydd efe marw.
Ezekiel 33:11Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd DDUW, nid ymhoffaf ym marwolaeth yr annuwiol; ond troi o'r annuwiol oddi wrth ei ffordd, a byw: dychwelwch, dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus; canys, ty Israel, paham y byddwch feirw?