The Bible Software
Llyfr Jeremeia · Beibl (1620)

Llyfr Jeremeia 27

1YN nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, º

2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wthyf, Gwna i ni rwymau a gefynnau a dod hwynt am dy wddf;. º

3Ac anfon hwynt at frenin Edom, ac at frenin Moab, ac at frenin meibion Ammon, ac at frenin Tyrus, ac at frenin Sidon, yn llaw y cenhadau a ddelo i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda; º

4A gorchymyn iddynt ddywedyd wrth eu harglwyddi, Fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Fel hyn y dywedwch wrth eich arglwyddi; º

5Myfi a wneuthum y ddaear, y dyn a’r anifail sydd ar wyneb y ddaear, a’m grym mawr, ac a’m braich estynedig, ac a’u rhoddais hwynt i’r neb y gwelais yn dda. º

6Ac yn awr mi a roddais yr holl diroedd hyn yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, a mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes i’w wasanaethu ef. º

7A’r holl genhedloedd a’i gwnsanaethant ef, a’i fab, a mab ei fab, nes dyfod gwir amser ei wlad ef, yna cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddo ef. º

8Ond y genedl a’r deyrnas nis gwasanaetho ef, sef Nebuchodonosor brenin Babilon, a’r rhai ni roddant eu gwddf dan iau brenin Babilon; â’r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, yr ymwelaf â’r genedl honno, medd yr ARGLWYDD, nes i mi eu difetha hwynt trwy ei law ef. º

9Am hynny na wrandewch ar eich proffwydi, nac ar eich dewiniaid, nac A eich breuddwydwyr, nac ar eich hudolion, nac ar eich swynyddion, y rhai sydd yn llefaru wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon: º

10Canys celwydd y mae y rhai hyn yn ei broffwydo i chwi, i’ch gyrru chwi ymhell o’ch gwlad, ac fel y bwriwn chwi ymaith, ac y methoch. º

11Ond y genedl a roddo ei gwddf dan iau brenin Babilon, ac a’i gwasanaetho ef, y rhai hynny a adawaf fi yn eu gwlad eu hun, medd yr ARGLWYDD; a hwy a’i llafuriant hi, ac a drigant ynddi. º

12Ac mi a leferais wrth Sedeceia brenin Jwda yn ôl yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, Rhoddwch eich gwarrau dan iau brenin Babilon, a gwasanaethwch ef a’i bobl, fel y byddoch byw. º

13Paham y byddwch feirw, ti a’th bobl, trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, fel y dywedodd yr ARGLWYDD yn erbyn y genedl ni wasanaethai frenin Babilon? º

14Am hynny na wrandewch ar eiriau y proffwydi y rhai a lefarant wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon: canys y maent yn proff¬wydo celwydd i chwi. º

15Oherwydd nid myfi a’u hanfonodd hwynt, medd yr ARGLWYDD; er hynny hwy a broffwydant yn fy enw ar gelwydd, fel y gyrrwn chwi ymaith, ac y darfyddai amdanoch chwi, a’r proffwydi sydd yn proffwydo i chwi. º

16Myfi a leferais hefyd wrth yr offeir¬iaid, a’r holl bobl hyn, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Na wrandewch ar eiriau eich proffwydi, y rhai sydd yn proffwydo i chwi, gan ddy¬wedyd., Wele, llestri tŷ yr ARGLWYDD a ddygir yn eu hôl o Babilon bellach ar frys; canys celwydd y maent yn ei. broffwydo i chwi. º 7 Na wrandewch arnynt; gwasan¬aethwch chwi frenin Babilon, a byddwch fyw: paham y byddai y ddinas hon yn ddiffeithwch?... º

17

18Ond os proffwydi ydynt hwy, ac od ydyw gair yr ARGLWYDD gyda hwynt, eiriolant yr awr hon ar ARGLWYDD y lluoedd, nad elo y llestri a adawyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhŷ brenin. Jwda, ac yn Jerwsalem, i Babilon. º

19Canys fel hyn y dywed AR GLWYDD y lluoedd, am y colofnau, ac am y môr, ac am yr ystolion, ac am y rhan arall o’r llestri a adawyd yn y ddinas hon, º

20Y rhai ni ddug Nebsichodonosor brenin Babilon ymaith, pan gaethgludodd efe Jechoneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, o Jerwsalem i Babilon, a holl bendefigion Jwda a Jerwsalem; º

21Ie, fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, am y llestri a ada¬wyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhŷ brenin Jwda a Jerwsalem; º

22Hwy a ddygir i Babilon, ac yno y byddant hyd y dydd yr ymwelwyf â hwynt, medd yr ARGLWYDD: yna y dygaf hwynt i fyoy, ac y dychwelaf hwynt i’r lle hwn.

← Llyfr Jeremeia 26Read In The App, Free →Llyfr Jeremeia 28 →

Study Llyfr Jeremeia 27

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940414243444546474849505152