Llyfr Jeremeia 35:2
DOS di i dŷ y Rechabiaid, a llefara wrthynt, a phar iddynt ddyfod i dŷ yr ARGLWYDD, i un o’r ystafelloedd, a dod iddynt win i’w yfed. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 6:10Ac efe a adeiladodd ystafelloedd wrth yr holl dŷ, yn bûm cufydd eu huchder: ac â choed cedr yr oeddynt yn pwyso ar y tŷ.
1 Chronicles 2:55A thylwyth yr ysgrifenyddion, y rhai a breswylient yn Jabes; y Tirathiaid, y Simeathiaid, y Suchathiaid. Dyma y Ceniaid, y rhai a ddaethani o Hemath, tad tylwyth Rechab.
1 Chronicles 9:33A dyma y cantorion, pennau-cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos. º
1 Chronicles 28:12A phortreiad yr hyn oll a oedd ganddo trwy yr ysbryd, am gynteddau tŷ yr ARGLWYDD, ac am yr holl ystafelloedd o amgylch, am drysorau tŷ DDUW, ac am drysorau y pethau cysegredig: º
2 Chronicles 31:11A Heseceia a ddywedodd am baratoi celloedd yn nhŷ yr ARGLWYDD; a hwy a’u paratoesant,
Nehemiah 13:5Ac efe a wnaeth iddo ef ystafell fawr; ac yno y byddent o’r blaen yn rhoddi y bwyd-offrymau, y thus, a’r llestri, a degwm yr ŷd, y gwin, a’r olew, a orchmynasid eu rhoddi i’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, ac offrymau yr offeiriaid.