Llyfr Jeremeia 35
1YGAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenhin Jwda, gan ddywedyd, º
2DOS di i dŷ y Rechabiaid, a llefara wrthynt, a phar iddynt ddyfod i dŷ yr ARGLWYDD, i un o’r ystafelloedd, a dod iddynt win i’w yfed. º
3Yna myfi a gymerais Jaasaneia, mab Jeremeia, mab Habasineia, a’i frodyr, a’i holl feibion, a holl deulu y Rechabiaid; º
4A mi a’u dygais hwynt i dŷ yr AR¬GLWYDD, i ystafell meibion Hanan mab Igdaleia, gŵr i DDUW, yr hon oedd wrth ystafell y tywysogion, yr hon sydd goruwch ystafell Maaseia mab Salum, ceidwad y drws. º
5A mi a roddais gerbron meibion tŷ y Rechabiaid ffiolau yn llawn o win, a chwpanau, a mi a ddywedais wrthynt, Yfwch win. º
6Ond hwy a ddywedasant, Nid yfwn ni ddim gwin: oherwydd Jonadab mab Rechab ein tad a roddodd i ni orchymyn, gan ddywedyd, Nac yfwch win, na chwy-chwi na’ch plant, yn dragywydd: º
7Na adeiledwch dŷ, ac na heuwch had, ac na phlennwch winllan, ac na fydded gennych chwi: ond mewn pebyll y preswyliwch eich holl ddyddiau: fel y byddoch chwi fyw ddyddiau lawer ar wyneb y ddaear, lle yr ydych yn ddieithriaid. º
8A nyni a wrandawsom ar lais Jonadab mab Rechab ein tad, am bob peth a orchmynnodd efe i ni; nad yfem ni win ein holl ddyddiau, nyni, ein gwragedd, ein meibion, a’n merched; º
9Ac nad adeiladem i ni dai i’w preswylio; ac nid oes gennym na gwinllan, na macs, na had: º
10Eithr trigo a wnaethom mewn pebyll, a gwrando, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Jonadab ein tad i ni. º
11Offd pan ddaeth’ Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny i’r wlad, nyni a ddywedasom, Deuwch, ac awn i Jerwsalem, rhag llu y Caldeaid, a rhag llu yr Asyriaid: ac yn Jerwsalem yr ydym ni yn preswylio. º
12Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd, º
13Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; DOS, a dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, Oni chymerwch chwi addysg i wrando ar fy ngeiriau? medd yr AR¬GLWYDD. º
14Geiriau Jonadab mab Rechab, y rhai a orchmynnodd efe i’w feibion, nad yfent win, a gyflawnwyd: canys nid yfant hwy win hyd y dydd hwn; ond hwy a wrandawant ar orchymyn eu tad: a minnau a ddywedais wrthych chwi, gan godi yn fore, a llefaru, ond ni wrandawsoch arnaf. º
15Myfi a anfonais hefyd atoch chwi fy holl weision y proffwydi, gan godi yn fore, ac anfon, gan ddywedyd, Dychwelwch yn awr bawb oddi wrth ei ffordd ddrwg, a gwellhewch eich gweithredoedd, ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt; a chwi a drigwch yn y wlad yr hon a roddais i chwi ac i’ch tadau: ond ni ogwyddasoch eich clustiau, a’C ni wrandawsoch arnaf. º
16Gan i feibion Jonadab mab Rechab gyflawni gorchymyn eu tad, yr hwn a orchmynnodd efe iddynt; ond y bobl yma ni wrandawsant arnaf fi: º
17Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD DDUW y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar Jwda, ac ar holl drigolion Jerwsalem, yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn: oherwydd i mi ddywedyd wrthynt, ond ni wrandawsant; a galw arnynt, ond nid atebasant. º
18A Jeremeia a ddywedodd wrth dylwyth y Rechabiaid, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Oherwydd i chwi wrando ar orchymyn Jonadab eich tad, a chadw ei holl orchmynion ef, a gwneuthur yn ôl yr hyfi oll a orchmynnodd efe i chwi: º
19Am hynny fel hyff y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Ni phalla i Jonadab mab Rechab ŵr i sefyll ger fy mron i yn dragywydd.