Llyfr Jeremeia 39:9
Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd i Babilon weddill y bobl y rhai a adawsid yn y ddinas, a’r encilwyr y rhai a giliasent ato ef, ynghyd â gweddill y bobl y rhai a adawsid. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
8A’r Caldeaid a losgasant dy y brenin a thai y bobl, â thân; a hwy a ddrylliasant furiau Jerwsalem. º
Cross References
Leviticus 26:33Chwithau a wasgaraf ym mysg y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ol; a’ch tir fydd ddiffaethwch, a’ch dinasoedd yn anghyfannedd.
2 Kings 20:18Cymerant hefyd o’th feibion di, y rhai a ddaw allan ohonot, y rhai a gen-hedii di, a hwy a fyddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon. º
2 Kings 25:20A Nebusaradan y distain a gymerth y rhai hyn, ac a’u dug at frenin Babilon, i Ribla. º
Jeremiah 10:18Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn taflu trigolion y tir y waith hon, a chyfyngaf arnynt, fel y caffont felly.
Jeremiah 20:4Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn dy wneuthur di yn ddychryn i ti dy hun, ac i’r rhai oll a’th garant; a hwy a syrthiant ar gleddyf eu gelynion, a’th lygaid di yn gweled: rhoddaf hefyd holl Jwda yn llaw brenin Babilon, ac efe a’u caethgludd hwynt i Babilon, ac a’u lladd hwynt â’r cleddyf. º
Jeremiah 40:1YGAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, wedi i Nebusaradan pennaeth y milwyr ei ollwng ef yn rhydd o Rama, wedi iddo ei gymryd ef, ac yntau yn rhwym mewn cadwyni ymysg holl gaethglud Jerwsalem a Jwda, y rhai a gaethgludasid i Babilon. º