Llyfr Jeremeia 39
1YN y nawfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, ar y degfed mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilan, a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a warchaeasant arni. º
2Yn yr unfed fiwyddyn ar ddeg Sedeceia, yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd o’r mis, y torrwyd y ddinas* º
3A holl dywysogion brenin Babilon a ddaethant i mewn, ac a eisteddasant yn y porth canol, sefNergal-sareser, Samgar-nebo, Sarsechim, Rabsaris, Nergat-sareser, Rabmag, a holl dywysogion eraill brenin Babilon. º
4A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hwynt, a’r holl ryfelwyr, hwy a ffoesant, ac a aethant allan o’r ddinas liw nos, trwy ffordd gardd y brenin, i’r porth rhwng y ddau fur: ac efe a aeth allan tua’r anialwch. º
5A llu y Caldeaid a erlidiasant ar eu hôl hwynt, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, ac a’i daliasanc ef, ac a’i dygasant at Nebuchodonosor brenin Babilon, i Ribia yng ngwlad Hamath; lle y rhoddodd efe fam arno. º
6Yna brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yn Ribia o flaen ei lygaid ef: brenin Babilon hefyd a laddodd holl bendefigion Jwda. º
7Ac efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymodd ef a chadwynau i’w ddwyn i Babilon. º
8A’r Caldeaid a losgasant dy y brenin a thai y bobl, â thân; a hwy a ddrylliasant furiau Jerwsalem. º
9Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd i Babilon weddill y bobl y rhai a adawsid yn y ddinas, a’r encilwyr y rhai a giliasent ato ef, ynghyd â gweddill y bobl y rhai a adawsid. º
10A Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd o diodion y bobl, y rhai nid oedd dim ganddynt, yng ngwlad Jwda; ac efe a roddodd iddynt winllannoedd a meysydd y pryd hwnnw. º
11A Nebuchodonosor brenin Babi¬lon a roddodd orchymyn am Jeremeia i Nebusaradan pennaeth y milwyr, gan ddywedyd, º
12Cymer ef, a bwrw olwg arno, ac na wna iddo ddim niwed; ond megis y dywedo efe wrthyt ti, felly gwna iddo. º
13Felly Nebusaradan pennaeth y mSwyr a anfonodd, Nebusasban hefyd, Rabsaris, a Nergal-sareser, Rabmag, a holl benaethiaid brenin Babilon; i º
14Ie, hwy a anfonasant, ac a gymerasant Jeremeia o gyntedd y carchardy, ac a’i rhoddasant ef at Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan, i’w ddwyn adref: felly efe a drigodd ymysg y bobl. º
15A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia, pan oedd efe wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, gan ddywedyd, º
16DOS, a dywed i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a barafi’m geiriau ddyfod yn erbyn y ddinas hon er niwed, ac nid er lles, a hwy a gwblheir o flaen dy wyneb y dwthwn hwnnw. º
17Ond myfi a’th waredaf di y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, ac ni’th roddir yn llaw y dynion yr ydwyt ti yn ofni rhagddynt. º
18Canys gan achub mi a’th achubaf, ac ni syrthi trwy y cleddyf, eithr bydd dy einioes yn ysglyfaeth i ti, am i ti ymddiried ynof fi, medd yr ARGLWYDD.