Llyfr Jeremeia 44:21
Oni chofiodd yr ARGLWYDD yr arogl-darth a arogl-darthasoch chwi yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, chwychwi a’ch tadau, eich brenhinoedd a’ch tywysogion, a phobl y wlad? ac oni ddaeth yn ei feddwl ef? º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 17:18A hi a ddywedodd wrth Eleias, Beth Sydd i mi a wnelwyf a thi, gŵr Duw? a ddaethost ti ataf i goffau fy anwiredd, flc i ladd fy mab? º
Isaiah 64:9Na ddigia, ARGLWYDD, yn ddirfawr, ac na chofia anwiredd yn dragywydd: wele, edrych, atolwg, dy bobl di ydym ni oll. º
Jeremiah 14:10Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn, Fel hyn yr hoffasant hwy grwydro, ac ni ataliasant eu traed: am hynny nis myn yr ARGLWYDD hwy; yr awr hon y cofia efe eu hanwiredd hwy, ac a ymwêl â’u pechodau.
Jeremiah 44:17Ond gan wneuthur y gwnawn ni bob peth a’r a ddelo allan o’n genau, gan arogl-darthu i fren hines y nefoedd, a thywalll iddi hi ddiodydd-offrwm, megis y gwnaethom, nyni a’n tadau, ein brenhin. oedd a’n tywysogion, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem.: canys yna yr oeddem ni yn ddigonol o fara, ac yn dda, ac heb weled drwg. º
Ezekiel 16:24Adeiladu ohonot i ti uchelfa, a gwneuthur i ti uchelfa ym mhob heol.
Hosea 7:2Ac nid ydynt yn meddwl yn eu calonnau fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt: weithian eu gweithredoedd eu hun a’u hamgylchynodd: y maent gerbron fy wyneb.