Llyfr Jeremeia 44
1Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia, am yr holl Iddewon y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft, ac yn preswylio ym Migdol, ac yn Tapanhes, ac yn Noff, ac yng ngwlad Pathros, gan ddywedyd º
2Fel hyn y dywed ARGLWYDD y myfi a osodaf fy wyneb yn eich erbyn Iluoedd, Duw Israel; Chwi a welsoch yr holl ddrwg a ddygais i ar Jerwsalem, ac ar holl ddinasoedd Jwda; ac wele hwy heddiw yn anghyfannedd, ac heb breswylydd ynddynt: º
3O achos eu drygioni yr hwn a wnaethant i’m digio i, gan fyned i arogl-darthu, ac i wasanaethu duwiau dieithr, y rhai nid adwaenent, na hwy, na chwithau, na’ch tadau. º
4Er i mi anfon atoch fy holl weision y proffwydi, gan foregodi, ac anfon, i ddy¬wedyd, Na wnewch, atolwg, y ffieiddb’eth hyn, yr hwn sydd gas gennyf fi: º
5Eto ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu dust, i ddychwelyd oddi wrth eu drygioni, fel nad arogl-darthent i dduwiau dieithr. º
6Am hynny y tywalltwyd fy llid a’m digofaint, ac y llosgodd efe yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem; ac y: maent hwy yn anghyfannedd, ac ynl ddiffeithwch, fel y gwelir heddiw. º
7Ac yn awr fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW y lluoedd, Duw Israel; Paham y gwnewch y mawr ddrwg hwn yn erbyn eich eneidiau, i dorri ymaith oddi wrthych ŵr a gwraig, plentyn, a’r hwn sydd yn sugno, allan o Jwda, fel na adawer i chwr weddill? º
8Gan fy nigio i a gweithredoedd eich dwylo, gan arogl-darthu i dduwiau dieithr yng ngwlad yr Aifft, yr hon yr aethoch i aros ynddi, i’ch difetha eich hunain, ac i fod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear. ‘ º
9A anghofiasoch chwi ddrygioni eich tadau, a drygioni brenhinoedd Jwda, a drygioni eu gwragedd hwynt, a’ch dryg¬ioni eich hunain, a drygioni eich gwrag¬edd, y rhai a wnaethant hwy yng ngwlad Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem? º
10Nid ydynt wedi ymostwng hyd y dydd hwn, ac nid ofnasant, ni rodiasant chwaith yn fy nghyfraith, nac yn fy neddfau, y rhai a roddais i o’ch blaen chwi, ac o flaen eich tadau. º
11Am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele, chwi er niwed, ac i ddifetha holl Jwda. º
12A mi a gymeraf weddill Jwda, y rhai a osodasant eu hwynebau i fyned i wlad yr Aifft i aros yno, a hwy a ddifethir oll; yng ngwlad yr Aifft y syrthiant: trwy y cleddyf a thrwy newyn y difethir hwynt: o fychan hyd fawr, trwy y cleddyf a: thrwy newyn y byddant feirw: a hwy;a fyddant yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth. º
13Canys myfi a ymwelaf a thrigolion gwlad yr Aifft, fel yr ymwelais a Jerw¬salem, a chleddyf, a newyn, ac a haint: º
14Fel na byddo un a ddihango, nac a adawer o weddill Jwda, y rhai a aethant i ymdeithio yno i wlad yr Aifft, i ddy¬chwelyd i wlad Jwda, yr hon y mae eu hewyllys ar ddychwelyd i aros ynddi; canys ni ddychwel ond y rhai a ddihangant. º
15Yna yr holl wŷr y rhai a wyddent i’w gwragedd arogl-darthu i dduwiau dieithr, a’r holl wragedd y rhai oedd yn sefyll yno, cynulleidfa fawr, yr holl bobl y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft, yn Pathros, a atebasant Jeremeia, gan ddywedyd, x 6 Am y gair a leferaist ti wrthym ni yn enw yr ARGLWYDD, ni wrandawn ni arnat. º
17Ond gan wneuthur y gwnawn ni bob peth a’r a ddelo allan o’n genau, gan arogl-darthu i fren hines y nefoedd, a thywalll iddi hi ddiodydd-offrwm, megis y gwnaethom, nyni a’n tadau, ein brenhin. oedd a’n tywysogion, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem.: canys yna yr oeddem ni yn ddigonol o fara, ac yn dda, ac heb weled drwg. º
18Ond er pan beidiasom ag arogl darthu i frenhines y nefoedd, ac a thywallt’ diod-offrwm iddi hi, bu arnom eisiau pob dim: trwy gleddyf hefyd a thrwy newyn y darfuom ni. º
19A phan oeddem ni yn arogl-darthu i frenhines y nefoedd, ac yn tywallt diod-offrwm iddi; ai heb ein gwŷr y gwnaethom,ni iddi hi deisennau i’w haddoli hi, ac y tywalltasom ddiod-offrwm iddi? º
20Yna Jeremeia a ddywedod wrth yr holl bobl, wrth y gwŷr, ac wrth y gwragedd, ac wrth yr holl bobl a’i hatebasant ef felly, gan ddywedyd, º
21Oni chofiodd yr ARGLWYDD yr arogl-darth a arogl-darthasoch chwi yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, chwychwi a’ch tadau, eich brenhinoedd a’ch tywysogion, a phobl y wlad? ac oni ddaeth yn ei feddwl ef? º
22Fel na allai yr ARGLWYDD gyd-ddwyn yn hwy, o achos drygioni eich gweithredoedd, a chan y ffiaidd bethau a wnaethech: am hynny yr aeth eich tir yn anghyfannedd, ac yn syndod, ac yn felltith, heb breswylydd, megis y gwelir y dydd hwn. º
23Oherwydd i chwi arogl-darthu, ac am i chwi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac na wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD, ac na rodiasoch yn ei gyfraith ef, nac yn ei ddeddfau, nac yn ei dystiolaethau; am hynny y digwyddodd i chwi yr aflwydd hwn fel y gwelir heddiw. º
24A Jeremeia a ddywedodd wrth yr holl bobl, ac wrth yr holl wragedd, Gwrandewch air yr ARGLWYDD, holl Jwda y rhai ydych yng ngwlad yr Aifft. º
25Fel hyn y llefarodd ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Chwychwi a’ch gwragedd a lefarasoch a’ch genau, ac a gyflawnasoch a’ch dwylo, gan ddywedyd, Gan dalu ni a dalwn ein haddunedau y rhai a addunasom, am arogl-darthu i frenhines y nefoedd, ac am dywallt diod-offrwm iddi; llwyr y cwblhewch eich addunedau, a llwyr y telwch yr hyn a addunedasoch. º
26Am hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, holl Jwda y rhai sydd yn, aros yng ngwlad yr Aifft; Wele, myfi a dyngais i’m henw mawr, medd yr ARGLWYDD, na elwir fy enw i mwyach, o fewn holl wlad yr Aifft yng ngenau un gŵr o Jwda, gan ddywedyd, Byw yw yr ARGLWYDD DDUW. º
27Wele, mi a wyhaf arnynt hwy er niwed, ac nid er daioni: a holl wŷr Jwda y rhai sydd yng ngwlad yr Aifft, a ddifethir â’r cleddyf, ac â newyn, hyd oni ddarfyddont. º
28A’r rhai a ddihangant gan y cleddyf, ac a ddychwelant o wlad yr Aifft i wlad Jwda, fyddant ychydig o nifer: a holl weddill Jwda, y rhai a aethant i wlad yr Aifft i aros yno, a gant wybod gair pwy a saif, ai yr eiddof fi, ai yr eiddynt hwy. º
29A hyn fydd yn arwydd i chwi, medd yr ARGLWYDD, sef yr ymwelaf a chwi yn y lle hwn, fel y gwypoch y saif fy ngeiriau i’ch erbyn chwi er niwed. º
30Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, myfi a roddaf Pharo-hoffra brenin yr Aifft yn llaw ei elynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio ei einioes ef, fel y, rhoddais i Sedeceia brenin Jwda yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon ei elyn, a’r hwn oedd yn ceisio ei einioes.