Llyfr Job 2:3
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni? ac yn parhau yn ei berffeithrwydd, er i ti fy annog i yn ei erbyn ef, i’w ddifa ef heb achos?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 6:9¶ Dyma genhedlaethau Noah: Noah oedd wr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyd â Duw y rhodiodd Noah.
Job 1:1Yr oedd gŵr yng ngwlad Us a’i enw Job, ac yr oedd y gŵr hwnnw yn berffaith ac yn uniawn, ac yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni.
Job 1:8A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni?
Job 1:21Ac a ddywedodd, Noeth y deuthum o groth fy mam, a noeth y dychwelaf yno. Yr ARGLWYDD a roddodd, a’r ARGLWYDD a ddygodd ymaith; bendigedig fyddo enw yr ARGLWYDD.
Job 9:20Os myfi a ymgyfiawnhaf, fy ngenau a’m barn yn euog: os perffaith y dywedaf fy mod, efe a’m barn yn gildyn.
Job 27:5Na ato DUW i mi eich cyfiawnhau chwi: oni threngwyf, ni symudaf fy mherffeithrwydd oddi wrthyf.