The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 2

1A dydd a ddaeth i feibion Duw ddy¬fod i sefyll gerbron yr ARGLWYDD; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt i sefyll gerbron yr ARGLWYDD.

2A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, O ba le yr ydwyt ti yn dyfod? A Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O dramwy ar hyd y ddaear, ac o ymrodio ynddi.

3A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni? ac yn parhau yn ei berffeithrwydd, er i ti fy annog i yn ei erbyn ef, i’w ddifa ef heb achos?

4A Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Croen am groen, a’r hyn oll sydd gan ŵr a ddyry efe am ei einioes.

5Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’i esgyrn ef ac â’i gnawd, ac efe a’th felltithia di o flaen dy wyneb.

6A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, Wele ef yn dy law di; eto cadw ei hoedl ef.

7Felly Satan a aeth allan oddi ger¬bron yr ARGLWYDD, ac a drawodd Job â chornwydydd blin, o wadn ei droed hyd ei gorun.

8Ac efe a gymerth gragen i ymgrafu â hi; ac a eisteddodd yn y lludw.

9Yna ei wraig a ddywedodd wrtho, A wyt ti eto yn parhau yn dy berffeithrwydd? melltthia DDUW, a bydd farw.

10Ond efe a ddywedodd wrthi, Lleferaist fel y llefarai un o’r ynfydion: a dderbyniwn ni gan DDUW yr hyn sydd dda, ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg? Yn hyn i gyd ni phechodd Job a’i wefusau.

11A phan glybu tri chyfaill Job yr holl ddrwg yma a ddigwyddasai iddo ef, hwy a ddaethant bob un o’i fangre ei hun; Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad: canys hwy a gytunasent i ddyfod i gydofidio ag ef, ac i’w gysuro.

12A phan ddyrchafasant eu llygaid o bell, ac heb ei adnabod ef, hwy a ddyrchaf¬asant eu llef, ac a wylasant; rhwygasant hefyd bob un ei fantell, a thaenasant Iwch ar eu pennau tua’r nefoedd.

13Felly hwy a eisteddasant gydag ef, ar y ddaear saith niwrnod a saith noswaith; ac nid oedd neb a ddywedai air wrtho ef: canys gwelent fyned ei ddolur ef yn fawr iawn.

← Llyfr Job 1Read In The App, Free →Llyfr Job 3 →

Study Llyfr Job 2

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142