Llyfr Job 33:23
Os bydd gydag ef gennad o ladmerydd, un o fil, i ddangos i ddyn ei uniondeb:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
22Nesau y mae ei enaid i’r bedd, a’i fywyd i’r dinistrwyr.
24Yna efe a drugarha wrtho, ac a ddywed, Gollwng ef, rhag disgyn ohono i’r clawdd: myfi a gefais iawn.
Cross References
Judges 2:1Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth i fyny o Gilgal i Bochim, ac a ddywedodd, Dygais chwi i fyny o’r Aifft, ac arweiniais chwi i’r wlad am yr hon y tyngais wrth eich tadau; ac a ddywedais, Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth.
Nehemiah 9:33Tithau ydwyt gyfiawn yn yr hyn oll a ddigwyddodd i ni: canys gwirionedd a wnaethost ti, a ninnau a wnaethom yn annuwiol.
Job 9:33Nid oes rhyngom ni ddyddiwr a all osod ei law arnom ein dau.
Job 34:10Am hynny chwychwi wŷr calonnog, gwrandewch arnaf. Pell oddi wrth DDUW fyddo gwneuthur annuwioldeb, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd.
Job 34:32Heblaw a welaf, dysg di fi: o gwneuthum anwiredd, ni wnaf fi mwy.
Job 36:3O bell y cymeraf fy ngwybodaeth, ac i’m Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawn¬der.