Llyfr Job 37:23
Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo’i gael ef: ardderchog yw o nerth, a barn, a helaethrwydd cyfiawnder: ni chystuddia efe.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
22O’r gogleddwynt y daw hindda: y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy.
24Am hynny yr ofna dynion ef: nid edrych efe ar neb doeth eu calon.
Cross References
Job 8:3A ŵyra DUW farn? neu a ŵyra yr Hollalluog gyfiawnder?
Job 9:19Os soniaf am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am farn, pwy a ddadlau drosof fi?
Job 12:13Gydag ef y mae doethineb a chadernid; cyngor a deall sydd ganddo.
Job 26:14Wele, dyma rannau ei ffyrdd ef: ond mor fychan ydyw y peth yr ydym ni yn ei glywed amdano ef! ond pwy a ddeall daranau ei gadernid ef?
Job 36:26Wele, mawr yw Duw, ac nid adwaenom ef; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef.