The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 37

1Wrth hyn hefyd y cryn fy nghalon, ac y dychlama hi o’i lle.

2Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef, ac ar y sain a ddaw allan o’i enau ef.

3Efe a’i hyfforddia dan yr holl nefoedd, a’i fellt hyd eithafoedd y ddaear.

4Swn a rua ar ei ôl ef: efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrf ef.

5DUW a wna daranau a’i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni.

6Canys efe a ddywed wrth yr eira, Bydd ar y ddaear; ac wrth gawod o law, ac wrth law mawr ei nerth ef.

7Efe a selia law pob dyn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef.

8Yna yr â y bwystfil i’w loches, ac y trig yn ei le.

9O’r deau y daw corwynt, ac oerni oddi wrth y gogledd.

10A’i wynt y rhydd DUW rew: a lled y dyfroedd a gyfyngir.

11Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau; efe a wasgar ei gwmwl golau.

12Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy both bynnag a orchmynno efe iddynt, ar hyd wyneb y byd ar y ddaear.

13Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth, ai i’w ddaear, ai er daioni, efe a bair iddo ddyfod.

14Gwrando hyn. Job; saf, ac ystyria ryfeddodau Duw.

15A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd DUW hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu?

16A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau, rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith-gwbl o wybodaeth?

17Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes, pan baro efe y ddaear yn dawel a’r deheuwynt?

18A daenaist ti gydag ef yr wybren, yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig?

19Gwna i ni wybod pa beth a ddywedwn wrtho: ni fedrwn ni gyfleu ein geiriau gan dywyllwch.

20A fynegir iddo ef os llefaraf? os dywed neb, diau y llyncir ef.

21Ac yn awr, ni wêl neb y goleuni disglair sydd yn y cymylau: ond myned y mae y gwynt, a’u puro hwynt.

22O’r gogleddwynt y daw hindda: y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy.

23Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo’i gael ef: ardderchog yw o nerth, a barn, a helaethrwydd cyfiawnder: ni chystuddia efe.

24Am hynny yr ofna dynion ef: nid edrych efe ar neb doeth eu calon.

← Llyfr Job 36Read In The App, Free →Llyfr Job 38 →

Study Llyfr Job 37

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142