Llyfr Job 4:3
Wele, ti a ddysgaist lawer, ac a gryfheaist ddwylo wedi llaesu.
Beibl (1620)
In The King James Version
Behold, thou hast instructed many, and thou hast strengthened the weak hands.
In Context
2Pe profem ni air wrthyt, a fyddai blin gennyt ti? ond pwy a all atal ei ymadroddion?
4Dy ymadroddion a godasant i fyny yr hwn oedd yn syrthio; a thi a nerthaist y gliniau oedd yn camu.
Cross References
Genesis 18:19Canys mi a’i hadwaen ef, y gorchymyn efe i’w blant, ac i’w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo yr Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe am dano.
Ezra 6:22Ac a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod mewn llawenydd: canys yr ARGLWYDD a’u llawenhasai hwynt, ac a droesai galon brenin Asyria atynt hwy, i’w cynorthwyo hwynt yng ngwaith tŷ DDUW, DUW Israel.
Proverbs 10:21Gwefusau y cyfiawn a borthant lawer: ond y ffyliaid, o ddiffyg synnwyr, a fyddant feirw.
Proverbs 16:21Y doeth ei galon a elwir yn ddeallus; a melyster y gwefusau a chwanega ddysgeidiaeth.
Isaiah 50:4Yr Arglwydd DDUW a roddes i mi dafod y dysgedig, i fedru roewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol: deffry fi bob bore, deffry i mi glust i glywed fel y dysgedig. º
Luke 22:32Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y’th droer, cadarnha dy frodyr.