The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 4

1Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,

2Pe profem ni air wrthyt, a fyddai blin gennyt ti? ond pwy a all atal ei ymadroddion?

3Wele, ti a ddysgaist lawer, ac a gryfheaist ddwylo wedi llaesu.

4Dy ymadroddion a godasant i fyny yr hwn oedd yn syrthio; a thi a nerthaist y gliniau oedd yn camu.

5Ond yn awr, daeth arnat tithau, ac y mae yn flin gennyt; cyffyrddodd â thi, a chyffroaist.

6Onid dyma dy ofn di, dy hyder, perffeithrwydd dy ffyrdd, a’th obaith?;

7Cofia, atolwg, pwy, ac efe yn ddiniwed, a gollwyd? a pha le y torrwyd y rhai uniawn ymaith?

8Hyd y gwelais i, y rhai a arddant anwiredd, ac a heuant ddrygioni, a’u medant.

9Gan anadl Duw y difethir hwynt, a chan chwythad ei ffroenau ef y darfyddant.

10Rhuad y llew, a llais y llew creulon, a dannedd cenawon y llewod, a dorrwyd.

11Yr hen lew a fethodd o eisiau ysglyfaeth; a chenawon y llew mawr a wasgarwyd.

12Ac ataf fi y dygwyd gair yn ddirgel: a’m clust a dderbyniodd ychydig ohono.

13Ymhlith meddyliau yn dyfod o weledigaethau y nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion,

14Ofn a ddaeth arnaf, a dychryn, ac a wnaeth i’m holl esgyrn grynu.

15Yna ysbryd a aeth heibio o flaen fy wyneb; ac a wnaeth i flew fy nghnawd sefyll.

16Efe a safodd, ac nid adwaenwn ei agwedd ef: drychiolaeth oedd o flaen fy Ilygaid, bu distawrwydd, a mi a glywais lef yn dywedyd,

17A fydd dyn marwol yn gyfiawnach na Duw? a fydd gŵr yn burach na’i wneuthurwr?

18Wele, yn ei wasanaethwyr ni roddes ymddiried; ac yn erbyn ei angylion y gosododd ynfydrwydd:

19Pa faint llai ar y rhai sydd yn trigo mewn tai o glai, y rhai sydd a’u sail mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?

20O’r bore hyd hwyr y malurir hwynt; difethir hwynt yn dragywydd heb neb yn ystyried.

21Onid aeth y rhagoriaeth oedd ynddynt ymaith? hwy a fyddant feirw, ac nid mewn doethineb.

← Llyfr Job 3Read In The App, Free →Llyfr Job 5 →

Study Llyfr Job 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142