Llyfr Job 5:7
Ond dyn a aned i flinder, fel yr eheda gwreichionen i fyny.
Beibl (1620)
In The King James Version
Yet man is born unto trouble, as the sparks fly upward.
In Context
6Er na ddaw cystudd allan o’r pridd, ac na flagura gofid allan o’r ddaear:
8Eto myfi a ymgynghorwn â Duw: ac ar DDUW y rhoddwn fy achos:
Cross References
Genesis 3:17Hefyd wrth Adda y dywedodd, Am wrandaw o honot ar lais dy wraig, a bwytta o’r pren am yr hwn y gorchymynaswn i ti, gan ddywedyd, Na fwytta o hono; melldigedig fydd y ddaear o’th achos di: trwy lafur y bwyttêi o honi holl ddyddiau dy einioes.
Psalms 90:8Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb.
Ecclesiastes 1:8Pob peth sydd yn llawn blinder; ni ddichon dyn ei draethu: ni chaiff y llygad ddigon o edrych, ac ni ddigonir y glust a chlywed.
Ecclesiastes 2:23Canys ei holl ddyddiau sydd orthrymder, a’i lafur yn ofid: ie, ni chymer ei galon esmwythdra y nos. Hyn hefyd sydd wagedd.
1 Corinthians 10:13Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, ond un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â’r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.