The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 5

1Galw yn awr, od oes neb a etyb i ti, ac at bwy o’r saint y troi di?

2Canys dicllondeb a ladd yr ynfyd, a chenfigen a ladd yr annoeth.

3Mi a welais yr ynfyd yn gwreiddio; ac a felltithiais ei drigfa ef yn ddisymwth.

4Ei feibion ef a bellheir oddi wrth iachawdwriaeth: dryllir hwynt hefyd yn y porth, ac nid oes gwaredydd.

5Yr hwn y bwyty y newynog ei gynhaeaf, wedi iddo ei gymryd o blith drain, a’r sychedig a Iwnc eu cyfoeth.

6Er na ddaw cystudd allan o’r pridd, ac na flagura gofid allan o’r ddaear:

7Ond dyn a aned i flinder, fel yr eheda gwreichionen i fyny.

8Eto myfi a ymgynghorwn â Duw: ac ar DDUW y rhoddwn fy achos:

9Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion ac anchwiliadwy; rhyfeddol heb rifedi:

10Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaear; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y meysydd:

11Gan osod rhai isel mewn uchelder; fel y dyrchefir y galarus i iachawd¬wriaeth.

12Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben.

13Efe sydd yn dal y doethion yn eu cyfrwystra: a chyngor y cyndyn a ddiddymir.

14Lliw dydd y cyfarfyddant â thywyllwch, a hwy a balfalant hanner dydd megis lliw nos.

15Yr hwn hefyd a achub y tlawd rhag y cleddyf, rhag eu safn hwy, a rhag llaw y cadarn.

16Felly y mae gobaith i’r tlawd, ac anwiredd yn cau ei safn.

17Wele, gwyn ei fyd y dyn a geryddo Duw; am hynny na ddiystyra gerydd yr Hollalluog.

18Canys efe a glwyfa, ac a rwym: efe a archolla, a’i ddwylo ef a iachant.

19Mewn chwech o gyfyngderau efe a’th wared di; ie, mewn saith ni chyffwrdd drwg â thi.

20Mewn newyn efe a’th wared rhag marwolaeth: ac mewn rhyfel rhag nerth y cleddyf.

21Rhag ffrewyll tafod y’th guddir; ac nid ofni rhag dinistr pan ddelo.

22Mewn dinistr a newyn y chwerddi; ac nid ofni rhag bwystfilod y ddaear.

23Canys â cherrig y maes y byddi mewn cynghrair; a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol â thi.

24A thi a gei wybod y bydd heddwch yn dy luest: a thi a ymweli â’th drigfa, ac ni phechi.

25A chei wybod hefyd mai Iluosog fydd dy had, a’th hiliogaeth megis gwellt y ddaear.

26Ti a ddeui mewn henaint i’r bedd, fel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser.

27Wele hyn, ni a’i chwiliasom, felly y mae: gwrando hynny, a gwybydd er dy fwyn dy hun.

← Llyfr Job 4Read In The App, Free →Llyfr Job 6 →

Study Llyfr Job 5

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142