Llyfr Job 7:21
A phaham na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf, a thi a’m ceisi yn fore, ond ni byddaf.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Samuel 24:10A chalon Dafydd a’i trawodd ef, ar ôl iddo gyfrif y bobl. A dywedodd Dafydd wrth yr ARGLWYDD, Pechais yn ddirfawr yn yr hyn a wneuthum: ac yn awr dilea, atolwg, O ARGLWYDD, anwiredd dy was, canys ynfyd iawn y gwneuthum. º
Job 7:8Y llygad a’m gwelodd, ni’m gwêl mwyach: dy lygaid sydd arnaf, ac nid ydwyf.
Job 10:14Os pechaf, ti a’m gwyli, ac ni’m glanhei oddi wrth fy anwiredd.
Job 14:10Ond gŵr a fydd marw, ac a dorrir ymaith; a dyn a drenga, a pha le y mae?
Job 20:8Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos.