The Bible Software
Llyfr Job · Beibl (1620)

Llyfr Job 7

1Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog?

2Megis y dyhea gwas am gysgod, ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith:

3Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd, a nosweithiau blinion a osodwyd i mi.

4Pan orweddwyf, y dywedaf. Pa bryd y codaf, ac yr ymedy y nos? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd.

5Fy nghnawd a wisgodd bryfed a thom priddlyd: fy nghroen a agennodd, ac a aeth yn ffiaidd.

6Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd, ac a ddarfuant heb obaith.

7Cofia mai gwynt yw fy hoedl: ni wêl fy llygad ddaioni mwyach.

8Y llygad a’m gwelodd, ni’m gwêl mwyach: dy lygaid sydd arnaf, ac nid ydwyf.

9Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn i’r bedd, ni ddaw i fyny mwyach.

10Ni ddychwel mwy i’w dŷ: a’i le nid edwyn ef mwy.

11Gan hynny ni warafunaf i’m genau; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid.

12Ai môr ydwyf, neu forfil, gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf?

13Pan ddywedwyf, Fy ngwely a’m cysura, fy ngorweddfa a esmwytha fy nghwynfan;

14Yna y’m brawychi â breuddwydion, ac y’m dychryni â gweledigaethau:

15Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu, a marwolaeth yn fwy na’m hoedl.

16Ffieiddiais einioes, ni fynnwn fyw byth: paid â mi, canys oferedd ydyw fy nyddiau.

17Pa beth ydyw dyn, pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno?

18Ac ymweled ag ef bob bore, a’i brofi ar bob moment?

19Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf, ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn?

20Myfi a bechais; beth a wnaf i ti, O geidwad dyn? paham y gosodaist fi yn nod i ti, fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun?

21A phaham na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf, a thi a’m ceisi yn fore, ond ni byddaf.

← Llyfr Job 6Read In The App, Free →Llyfr Job 8 →

Study Llyfr Job 7

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142