Llyfr Job 9:13
Oni thry DUW ei ddicllonedd ymaith, dano ef y cryma cynorthwywyr balchder.
Beibl (1620)
In The King James Version
If God will not withdraw his anger, the proud helpers do stoop under him.
In Context
12Wele, efe a ysglyfaetha, pwy a’i lluddia? pwy a ddywed wrtho, Pa beth yr wyt yn ei wneuthur?
14Pa faint llai yr atebaf iddo ef, ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef?
Cross References
Job 40:9A oes i ti fraich fel i DDUW? neu a wnei di daranau a’th lais fel yntau?
Isaiah 5:25Am hynny yr enynnodd llid yr AR¬GLWYDD yn erbyn ei bobl, ac yr estynnodd efe ei law arnynt, ac a’u trawodd hwynt; a chrynodd y mynyddoedd, a bu eu celanedd hwynt yn rhwygedig yng nghanol yr heolydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef wedi ei hestyn allan.
Isaiah 31:2Eto y mae efe yn ddoeth, ac a ddaw a chosbedigaeth, ac ni eilw ei air yn ôl; eithr cyfyd yn erbyn tŷ y rhai drygionus, ac yn erbyn cynhorthwy y rhai a weithredant anwiredd. º
James 4:6Eithr rhoddi gras mwy y mae: oherwydd paham y mae yn dywedyd, Y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ond yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig.