Llythyr Iago 4:6
Eithr rhoddi gras mwy y mae: oherwydd paham y mae yn dywedyd, Y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ond yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
7Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw. Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddi wrthych.
Cross References
Exodus 10:3A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharaoh, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.
Exodus 18:11Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr Arglwydd na’r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch o hono, yr oedd efe yn uwch na hwynt.
2 Chronicles 32:26Er hynny Heseceia a ymostyngodd oherwydd dyrchafiad ei galon, efe a thrig¬olion Jerwsalem; ac ni ddaeth digofaint yr ARGLWYDD arnynt yn nyddiau Heseceia.
2 Chronicles 33:19Ei weddi ef hefyd, a’r modd y cymododd Duw ag ef, a’i holl bechod ef, a’i gamwedd, a’r lleoedd yr adeiladodd efe ynddynt uchelfeydd, ac y gosododd lwyni, a delwau cerfiedig, cyn ymostwng ohono ef; wele hwynt yn ysgrifenedig ymysg geiriau y gweledyddion.
2 Chronicles 34:27Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen Duw, pan glyw¬aist ei eiriau ef yn erbyn y fan hon ac yn erbyn ei thrigolion, ac ymostwng ohonot ger fy mron, a rhwygo dy ddillad, ac wylo o’m blaen i; am hynny y gwrandewais innau, medd yr ARGLWYDD.
Job 40:10Ymdrwsia yn awr â mawredd ac a godidowgrwydd, ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch.