Llyfr Joel 1:7
Gosododd fy ngwinwydden yn ddifrod, a'm ffigysbren a ddirisglodd: gan ddinoethi dinoethodd hi, a thaflodd hi ymaith: ei changau a wynasant.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
8Uda fel gwyry wedi ymwregysu mewn sachliain am briod ei hieuenctid.
Cross References
Exodus 10:15Canys toisant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillasai y cenllysg: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lysiau y maes, o fewn holl wlad yr Aipht.
Isaiah 5:6A mi a’i gosodaf hi yn ddifrod: nid ysgythrir hi, ac ni chloddir hi; ond mieri a drain a gyfyd: ac i’r cymylau y gorchmynnaf na lawiont law arni.
Isaiah 32:12Galarant am y tethau, am y meysydd hyfryd, am y winwydden ffrwythlon. º
Hosea 2:12A mi a anrheithiaf ei gwinwydd hi a’i ffigyswydd, am y rhai y dywedodd, Dyma fy ngwobrwyon y rhai a roddodd fy nghariadau i mi; ac mi a’u gosodaf yn goedwig, a bwystfilod y maes a’u difa hwynt.
Amos 4:9Trewais chwi â diflaniad, ac a mallter: pan amlhaodd eich gerddi, a’ch gwinllannoedd, a’ch ffigyswydd, a’ch olewydd, y lindys a’u hysodd: eto ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD.
Malachi 3:11Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes, ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear: a'r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd.