Llyfr Joel 2:26
Yna y bwytewch, gan fwyta ac ymddigoni; ac y moliennwch enw yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn a wnaeth a chwi yn rhyfedd: ac ni waradwyddir fy mhobl byth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 33:11Cymmer, attolwg, fy mendith, yr hon a ddygpwyd i ti; oblegid Duw a fu raslawn i mi, ac am fod gennyf fi bob peth. Ac efe a fu daer arno: ac yntau a gymmerodd;
Leviticus 26:5A’ch dyrnu a gyrhaedd hyd gynhauaf y grawnwin, a chynhauaf y grawnwin a gyrraedd hyd amser hau; a’ch bara a fwyttêwch yn ddigonol, ac yn eich tir y trigwch yn ddïogel.
Deuteronomy 6:11A thai llawnion o bob daioni y rhai nis llenwaist, a phydewau cloddiedig y rhai nis cloddiaist, i winllannoedd ac olew-wyddlannau y rhai nis plennaist, wedi i ti fwytta, a’th ddigoni;
Deuteronomy 12:7A bwyttêwch yno ger bron yr Arglwydd eich Duw, a llawenhêwch ym mhob dim y rhoddoch eich llaw arno, chwychwi a’ch teuluoedd, yn yr hyn y’th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw.
Deuteronomy 12:18Ond o flaen yr Arglwydd dy Dduw y bwyttêi hwynt, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw; ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo yn dy byrth di: llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw yn yr hyn oll yr estynech dy law arno.
Nehemiah 9:25A hwy a enillasant ddinasoedd cedyrn, a daear fras, ac a feddianasant dai llawn o bob daioni, pydewau cloddiedig, gwinllannoedd, ac olewyddlannoedd, a choed ffrwythlon yn aml; a hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd, ac a frasawyd, ac a ymhyfrydasant yn dy fawr ddaioni di.