Llyfr Joel 2:28
A bydd ar ôl hynny, y tywalltaf fy ysbryd ar bob cnawd; a'ch meibion a'ch merched a broffwydant, eich henuriaid a welant freuddwydion, eich gwŷr ieuainc a welant weledigaethau:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
29Ac ar y gweision hefyd ac ar y morynion y tywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny.
Cross References
Genesis 37:5¶ A Joseph a freuddwydiodd freuddwyd, ac a’i mynegodd i’w frodyr: a hwy a’i casasant ef etto yn ychwaneg.
1 Samuel 19:21A phan fynegwyd hyn i Saul, efe a anfonodd genhadau eraill; a hwythau hefyd a broffwydasant. A thrachefn danfonodd Saul genhadau y drydedd waith; a phroffwydasant hwythau hefyd. º
Isaiah 32:15Hyd oni thywallter arnom yr ysbryd o’r uchelder, a bod yr anialwch yn ddoldir, a chyfrif y doldir yn goetir. º
Isaiah 44:3Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir: tywalltaf Sy Ysbryd ar dy had, a’m bendith ar dy hiliogaeth: º
Isaiah 54:13Dy holl feibion hefyd fyddant wedi eu dysgu gan yr ARGLWYDD; a mawr fydd heddwch dy feibion. º
Ezekiel 39:29Ni chuddiaf chwaith fy wyneb mwy oddi wrthynt: oherwydd tywelltais fy ysbryd ar dy Israel, medd yr Arglwydd DDUW.