Llyfr Joel 3:14
Torfeydd, torfeydd a fydd yng nglyn terfyniad: canys agos yw dydd yr ARGLWYDD yng nglyn terfyniad.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
15Yr haul a'r lloer a dywyllant, a'r sêr a ataliant eu llewyrch.
Cross References
Isaiah 34:2Canys llidiowgrwydd yr ARGLWYDD sydd ar yr holl genhedloedd, a’i soriant ar eu holl luoedd hwynt: difrododd hwynt, rhoddes hwynt i’r lladdfa. º
Ezekiel 38:8Wedi dyddiau lawer yr ymwelir a thi; yn y Mynyddoedd diwethaf y deui i dir wedi ei ddwyn yn ei ôl oddi wrth y cleddyf, wedi ei gasglu o bobloedd lawer yn erbyn mynyddoedd Israel, y rhai a fuant yn anghyfannedd bob amser: eithr efe a ddygwyd allan o'r bobloedd, a hwynt oll a drigant mewn diogelwch.
Joel 1:15Och o'r diwrnod! canys dydd yr ARGLWYDD sydd yn agos, ac fel difrod oddi wrth yr Hollalluog y daw.
Joel 3:2Casglaf hefyd yr holl genhedloedd, a dygaf hwynt i waered i ddyffryn Jehosaffat; a dadleuaf â hwynt yno dros fy mhobl, a'm hetifeddiaeth Israel, y rhai a wasgarasant hwy ymysg y cenhedloedd, a rhanasant fy nhir.
2 Peter 3:7Eithr y nefoedd a’r ddaear sydd yr awr hon, ydynt trwy’r un gair wedi eu rhoddi i gadw i dân, erbyn dydd y farn, a distryw yr anwir ddynion.
Revelation 19:19Ac mi a welais y bwystfil, a brenhinoedd y ddaear, a'u lluoedd, wedi ymgynnull ynghyd i wneuthur rhyfel yn erbyn yr hwn oedd yn eistedd ar y march, ac yn erbyn ei lu ef.