The Bible Software
Llyfr Joel · Beibl (1620)

Llyfr Joel 3

1Canys wele, yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, pan ddychwelwyf gaethiwed Jwda a Jerwsalem,

2Casglaf hefyd yr holl genhedloedd, a dygaf hwynt i waered i ddyffryn Jehosaffat; a dadleuaf â hwynt yno dros fy mhobl, a'm hetifeddiaeth Israel, y rhai a wasgarasant hwy ymysg y cenhedloedd, a rhanasant fy nhir.

3Ac ar fy mhobl y bwriasant goelbrennau, a rhoddasant y bachgen er putain, a gwerthasant fachgennes er gwin, fel yr yfent.

4Tyrus hefyd a Sidon, a holl ardaloedd Palesteina, beth sydd i chwi a wneloch â mi? a delwch i mi y pwyth? ac os telwch i mi, buan iawn y dychwelaf eich tâl ar eich pen eich hunain;

5Am i chwi gymryd fy arian a'm haur, a dwyn i'ch temlau fy nhlysau dymunol.

6Gwerthasoch hefyd feibion Jwda a meibion Jerwsalem i'r Groegiaid, i'w pellhau oddi wrth eu hardaloedd.

7Wele, mi a'u codaf hwynt o'r lle y gwerthasoch hwynt iddo, ac a ddatroaf eich tâl ar eich pen eich hunain.

8A minnau a werthaf eich meibion a'ch merched i law meibion Jwda, a hwythau a'u gwerthant i'r Sabeaid, i genedl o bell; canys yr ARGLWYDD a lefarodd hyn.

9Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd, gosodwch ryfel, deffrowch y gwŷr cryfion, nesaed y gwŷr o ryfel, deuant i fyny.

10Gyrrwch eich sychau yn gleddyfau, a'ch pladuriau yn waywffyn: dyweded y llesg, Cryf ydwyf.

11Ymgesglwch, a deuwch, y cenhedloedd o amgylch ogylch, ac ymgynullwch: yno disgyn, O ARGLWYDD, dy gedyrn.

12Deffroed y cenhedloedd, a deuant i fyny i ddyffryn Jehosaffat: oherwydd yno yr eisteddaf i farnu yr holl genhedloedd r amgylch.

13Rhowch i mewn y cryman; canys aeddfedodd y cynhaeaf: deuwch, ewch i waered; oherwydd y gwryf a lanwodd a'r gwasg-gafnau a aethant trosodd, am amlhau eu drygioni hwynt.

14Torfeydd, torfeydd a fydd yng nglyn terfyniad: canys agos yw dydd yr ARGLWYDD yng nglyn terfyniad.

15Yr haul a'r lloer a dywyllant, a'r sêr a ataliant eu llewyrch.

16A'r ARGLWYDD a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; y nefoedd hefyd a'r ddaear a grynant: ond yr ARGLWYDD fydd gobaith ei bobl, a chadernid meibion Israel.

17Felly y cewch wybod mai myfi yw ARGLWYDD eich DUW, yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd: yna y bydd Jerwsalem yn sanctaidd, ac nid â dieithriaid trwyddi mwyach.

18A'r dydd hwnnw y bydd i’r mynyddoedd ddefnynnu melyswin, a’r bryniau a lifeiriant o laeth, a holl ffynnon Jwda a redant gan ddwfr, a ffynnon a ddaw allan o dŷ yr ARGLWYDD, ac a ddyfrha ddyffryn Sittim.

19Yr Aifft a fydd anghyfannedd, ac Edom fydd anialwch anghyfanheddol, am y traha yn erbyn meibion Jwda, am iddynt dywallt gwaed gwirion yn eu tir hwynt.

20Eto Jwda a drig byth, a Jerwsalem o genhedlaeth i genhedlaeth.

21Canys glanhaf waed y rhai nis glanheais: canys yr ARGLWYDD sydd yn trigo yn Seion.

← Llyfr Joel 2Read In The App, Free →Amos 1 →

Study Llyfr Joel 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123