Llyfr Joel 3:18
A'r dydd hwnnw y bydd i’r mynyddoedd ddefnynnu melyswin, a’r bryniau a lifeiriant o laeth, a holl ffynnon Jwda a redant gan ddwfr, a ffynnon a ddaw allan o dŷ yr ARGLWYDD, ac a ddyfrha ddyffryn Sittim.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 3:8A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Aiphtiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid.
Job 29:6Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn, a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew!
Isaiah 30:25Bydd hefyd ar bob mynydd uchel, ac ar bob bryn dyrchafedig, afonydd a ffrydiau dyfroedd, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrthio y tyrau. º
Isaiah 41:17Pan geisio y trueimaid a’r tlodion ddwfr, ac nis cant, pan ballo eu tafod o syched,myfi yr ARGLWYDD ii’u gwrandawaf hwynt, myfi Duw Israel nis gadawaf hwynt. º
Ezekiel 47:1AC efe a'm dug i drachefn i ddrws y 1 - ty; ac wele ddwfr yn dyfod allan oddi tan riniog y ty tua'r dwyrain: oherwydd wyneb y ty oedd tua'r dwyrain; a'r dyfroedd oedd yn disgyn oddi tanodd o ystlys deau y tŷ, o du y deau i'r allot'.
Micah 6:5Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd Balac brenin Moab, a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod cyfiawnder yr ARGLWYDD.