Yr Efengyl yn ôl Ioan 1:45
Philip a gafodd Nathanael, ac a ddywedodd wrtho, Cawsom yr hwn yr ysgrifennodd Moses yn y gyfraith, a’r proffwydi, amdano, Iesu o Nasareth, mab Joseff.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
44A Philip oedd o Fethsaida, o ddinas Andreas a Phedr.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 1
Cross References
Genesis 3:15Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.
Genesis 49:10Nid ymedy y deyrn-wïalen o Judah, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac atto ef y bydd cynhulliad pobloedd.
Isaiah 4:2Y pryd hwnnw y bydd Blaguryn yr ARGLWYDD yn brydferthwch ac yn ogoniant; a ffrwyth y ddaear yn rhagorol ac yn hardd i’r rhai a ddianghasant o Israel.
Isaiah 9:6Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef: a gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw cadarn, Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd. º
Micah 5:2A thithau, Bethlehem Effrata, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Jwda, eto ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel, yr hwn yr oedd ei fynediad allan o'r dechreuad, er dyddiau tragwyddoldeb.
Zechariah 9:9Bydd lawen iawn, ti ferch Seion; a chrechwena, ha ferch Jerwsalem: wele dy frenin yn dyfod atat: cyfiawn ac achubydd yw efe; y mae efe yn llariaidd, ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol llwdn asen.