Yr Efengyl yn ôl Ioan 12:40
Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â’u llygaid, a deall â’u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi en hiacháu hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
39Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Eseias drachefn,
41Y pethau hyn a ddywedodd Eseias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd amdano ef.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 12
Cross References
Exodus 7:3A minnau a galedaf galon Pharaoh, ac a amlhâf fy arwyddion a’m rhyfeddodau y’ngwlad yr Aipht.
Exodus 14:4A mi a galedaf galon Pharaoh, fel yr erlidio ar eu hol hwynt: felly y’m gogoneddir ar Pharaoh, a’i holl fyddin; a’r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd. Ac felly y gwnaethant.
Exodus 14:17Wele, fi, ïe, myfi a galedaf galon yr Aiphtiaid, fel y delont ar eu hol hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharaoh, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar eu farchogion.
Joshua 11:20Canys o’r Arglwydd yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod âg Israel mewn rhyfel, fel y difrodai efe hwynt, ac na fyddai iddynt drugaredd; ond fel y difethai efe hwynt, fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.
Psalms 6:2Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a’m Duw: canys arnat y gweddïaf.