Yr Efengyl yn ôl Ioan 12
1Yna yr Iesu, chwe diwrnod cyn y pasg, a ddaeth i Bethania, lle yr oedd Lazarus, yr hwn a fuasai farw, yr hwn a godasai efe o feirw.
2Ac yno y gwnaethant iddo swpper; a Martha oedd yn gwasanaethu: a Lazarus oedd un o’r rhai a eisteddent gyd âg ef.
3Yna y cymmerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a enneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt: a’r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint.
4Am hynny y dywedodd un o’i ddisgyblion ef, Judas Iscariot, mab Simon, yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef,
5Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chàn ceiniog, a’i roddi i’r tlodion?
6Eithr hyn a ddywedodd efe, nid o herwydd bod arno ofal dros y tlodion; ond am ei fod yn lleidr, a bod ganddo y pwrs, a’i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo.
7A’r Iesu a ddywedodd, Gâd iddiǃ erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn.
8Canys y mae gennych y tlodion gyd â chwi bob amser; eithr myfi nid oes gennych bob amser.
9Gwybu gan hynny dyrfa fawr o’r Iuddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lazarus hefyd, yr hwn a godasai efe o feirw.
10Eithr yr archoffeiriaid a ymgynghorasant fel y lladdent Lazarus hefyd:
11Oblegid llawer o’r Iuddewon a aethant ymaith o’i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Iesu.
12Trannoeth, tyrfa fawr yr hon a ddaethai i’r wyl, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerusalem,
13A gymerasant gangau o’r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Hosanna: Bendigedig yw Brenhin Israel, yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.
14A’r Iesu wedi cael asyn, a eisteddodd arno; megis y mae yn ysgrifenedig,
15Nac ofna, ferch Sïon: wele, y mae dy Frenhin yn dyfod, yn eistedd er ebol asyn.
16Y pethau hyn ni wybu ei ddisgyblion ef ar y cyntaf: eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig am dano, ac iddynt wneuthur hyn iddo.
17Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa, yr hon oedd gydag ef pan alwodd efe Lasarus o’r bedd, a’i godi ef o feirw.
18Am hyn y daeth y dyrfa hefyd i gyfarfod ag ef, am glywed ohonynt iddo wneuthur yr arwydd hwn.
19Y Phariseaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, A welwch chwi nad ydych yn tycio dim? wele, fe aeth y byd ar ei ôl ef.
20Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethent i fyny i addoli ar yr ŵyl:
21Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Fethsaida yng Ngalilea, ac a ddymunasant arno, tan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu.
22Philip a ddaeth, ac a ddywedodd i Andreas; a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i’r Iesu.
23A’r Iesu a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y dyn.
24Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i’r ddaear, a marw, hwnnw a erys yn unig: eithr us bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer.
25Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a’i cyll hi; a’r hwn sydd yn casa’u ei einioes yn y byd hwn, a’i ceidw hi i fywyd tragwyddol.
26Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi y Tad a’i hanrhydedda ef.
27Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o’r awr hon: eithr oherwydd hyn y deuthum i’r awr hon.
28O Dad, gogonedda dy enw. Yna y daeth llef o’r nef, Mi a’i gogoneddais, ac a’i gogoneddaf drachefn.
29Y dyrfa gan hynny, yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho.
30Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Nid o’m hachos i y bu’r llef hon, ond o’ch achos chwi.
31Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn.
32A minnau, os dyrchefir fi oddi ar y ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun.
33(A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba angau y byddai farw.)
34Y dyrfa a atebodd iddo, Ni a glywsom o’r ddeddf, fod Crist yn aros yn dragwyddol: a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd, fod yn rhaid dyrchafu Mab y dyn? pwy ydyw hwnnw Mab y dyn?
35Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Eto ychydig ennyd y mae’r goleuni gyda chwi. Rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni, fel na ddalio’r tywyllwch chwi: a’r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae’n myned.
36Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt.
37Ac er gwneuthur ohono ef gymaint o arwyddion yn en gŵydd hwynt, ni chredasant ynddo:
38Fel y cyflawnid ymadrodd Eseias y proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?
39Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Eseias drachefn,
40Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â’u llygaid, a deall â’u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi en hiacháu hwynt.
41Y pethau hyn a ddywedodd Eseias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd amdano ef.
42Er hynny llawer o’r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo; ond oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o’r synagog:
43Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw.
44A’r Iesu a lefodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn, yr hwn a’m hanfonodd i.
45A’r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a’m danfonodd i.
46Mi a ddeuthum yn oleuni i’r byd, fel y bo i bob un a’r sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch.
47Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddeuthum i farnu’r byd, eithr i achub y byd.
48Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo un yn ei farnu: y gair a leferais i, hwnnw a’i barn ef yn y dydd diwethaf.
49Canys myfi ni leferais ohonof fy hun: ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i, efe a roddes orchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn.
50Ac mi a wn fod ei orchmynyn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.