Yr Efengyl yn ôl Ioan 14:23
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair; a’m Tad, a’i câr yntau, a nyni a ddeuwn ato, ac a wnawn ein trigfa gydag ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 14
Cross References
Genesis 1:26¶ Duw hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
Psalms 90:1Gweddi Moses gŵr DUW. Ti, ARGLWYDD, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth.
Isaiah 57:15Canys fcl hyn y dywed y Goruchel a’r dyrchatedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb, ac y mae ei enw yn Sanctaidd, Y goruchelder a’r cysegr a breswyliaf; a chyda’r cystuddiedig a’r isel o ysbryd, i fywhau y rhai isel o ysbryd, ac i fywhau calon y rhai cystudd¬iedig. º
John 6:56Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau.
John 14:15O cherwch fi, cedwch fy ngorchmynion.
John 14:21Yr hwn sydd â’m gorchmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw’r hwn sydd yn fy ngharu i: a’r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a’i caraf ef, ac a’m hegluraf fy hun iddo.