Yr Efengyl yn ôl Ioan 20:16
Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Mair. Hithau a droes, ac a ddywedodd wrtho, Rabboni, yr hyn yw dywedyd, Athro.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 20
Cross References
Genesis 22:1Cenhedlaeth Nachor hyd Rebeccah. Ac wedi’r pethau hyn y bu i Dduw brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.
Genesis 45:12Ac wele eich llygaid chwi, a llygaid fy mrawd Benjamin yn gweled, mai fy ngenau i sydd yn ymadrodd wrthych.
Exodus 33:17A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwnaf hefyd y peth hyn a leferaist: oblegid ti a gefaist ffafr yn fy ngolwg, a mi a’th adwaen wrth dy enw.
1 Samuel 3:10A daeth yr ARGLWYDD, ac a safodd, ac a alwodd megis o’r blaen, Samuel, Samuel. A dywedodd Samuel, Llefara; canys y mae dy was yn clywed.
Song of Solomon 3:4Nid aethwn i nepell oddi wrthynt, hyd oni chefais yr hwn sydd hoff gan fy enaid: deliais ef, ac ms gollyngais, hyd oni ddygais ef i dŷ fy mam, ac i ystafell yr hon a’m hymddug.
Isaiah 43:1OND yr awr hon fel hyn y dywed yr ARGLWYDD dy Greawdwr di, Jacob, a’th Luniwr di, Israel, Nac ofna; canySr gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt. º