Yr Efengyl yn ôl Ioan 4:23
Ond dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae’r Tad yn eu ceisio i’w addoli ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
24Ysbryd yw Duw; a rhaid i’r rhai a’i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 4
Cross References
Joshua 24:14¶ Yn awr gan hynny ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon, ac yn yr Aipht; a gwasanaethwch chwi yr Arglwydd.
1 Chronicles 29:17Gwn hefyd, O fy Nuw, mai ti sydd yn profi y galon, ac yn yrnfodloni mewa cyfiawnder. Myfi yn uniondeb fy nghalon, o wirfodd a offrymais hyn oll; ac yn awr y gwelais dy bobl a gafwyd yma yn offryma yn ewyllysgar i ti, a hynny mewn llawenydd. º
Psalms 32:2Gogwydda dy glust ataf; gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddiffyn i’m cadw.
Song of Solomon 2:14Fy ngholomen, yr hon wyt yn holltau y graig, yn lloches y grisiau, gad i mi weled dy wyneb, gad i mi glywed dy lais: canys dy lais sydd beraidd, a’th olwg yn hardd.
Isaiah 10:20A bydd yn y dydd hwnnw, na chwanega gweddill Israel, a’r rhai a ddihangodd o dŷ Jacob, ymgynnal mwy* ach ar yr hwn a’u trawodd; ond pwysant ar yr ARGLWYDD, Sanct Israel, mewn gwirionedd. º