Yr Efengyl yn ôl Ioan 6:39
A hyn yw ewyllys y Tad a’m hanfonodd i; o’r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim ohono, eithr bod i mi ei atgyfodi ef yn y dydd diwethaf.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
38Canys myfi a ddisgynnais o’r nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys hwn a’m hanfonodd.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 6
Cross References
1 Samuel 25:29Er cyfodi o ddyn i’th erlid di, ac i geisio dy enaid; eto enaid fy arglwydd a fydd wedi ei rwymo yn rhwymyn y bywyd gyda’r ARGLWYDD dy DDUW; ac enaid dy elynion a chwyrn deifl efe, fel o ganol ceudeb y ffon dafl. º
Luke 12:32Nac ofna, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas.
John 6:37Yr hyn oll y mae’r Tad yn ei roddi i mi, a ddaw ataf fi: a’r hwn a ddal ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim.
John 6:44Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a’i hatgyfodaf ef y dydd diwethaf.
John 10:27Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i; a mi a’u hadwaen hwynt, a hwy a’m canlynant i:
John 12:48Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo un yn ei farnu: y gair a leferais i, hwnnw a’i barn ef yn y dydd diwethaf.