The Bible Software
Llyfr Jona · Beibl (1620)

Llyfr Jona 1

1A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jona mab Amitai, gan ddywedyd,

2Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a llefa yn ei herbyn; canys eu drygioni hwynt a ddyrchafodd ger fy mron.

3A Jona a gyfododd i ffoi i Tarsis oddi gerbron yr ARGLWYDD: ac efe a aeth i waered i Jopa, ac a gafodd long yn myned i Tarsis, ac a dalodd ei llong-log hi, ac a aeth i waered iddi i fyned gyda hwynt i Tarsis, oddi gerbron yr ARGLWYDD.

4Ond yr ARGLWYDD a gyfododd wynt mawr yn y môr, a bu yn y môr dymestl fawr, fel y tybygwyd y drylliai y llong.

5Yna y morwyr a ofnasant, ac a lefasant bob un ar ei dduw, a bwriasant y dodrefn oedd yn y llong i'r môr, i ymysgafnhau ohonynt: ond Jona a aethai i waered i ystlysau y llong, ac a orweddasai, ac a gysgasai.

6A meistr y llong a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddarfu i ti, gysgadur? cyfod, galw ar dy DDUW: fe allai yr ystyr y DUW hwnnw wrthym, fel na'n coller.

7A dywedasant bob un wrth ei gyfaill, Deuwch, a bwriwn goelbrennau, fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom. A bwriasant goelbrennau, a'r coelbren a syrthiodd ar Jona.

8A dywedasant wrtho, Atolwg, dangos i ni er mwyn pwy y mae i ni y drwg hwn: beth yw dy gelfyddyd di? ac o ba le y daethost? pa le yw dy wlad? ac o ba bobl yr wyt ti?

9Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread ydwyf fi; ac ofni yr wyf fi ARGLWYDD DDUW y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a'r sychdir.

10A'r gwŷ r a ofnasant gan ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, Paham y gwnaethost hyn? Canys y dynion a wyddent iddo ffoi oddi gerbron yr ARGLWYDD, oherwydd efe a fynegasai iddynt.

11A dywedasant wrtho, Beth a wnawn i ti, fel y gostego y môr oddi wrth ym? canys gweithio yr oedd y môr, a therfysgu.

12Ac efe a ddywedodd wrthynt, Cymerwch fi, a bwriwch fi i'r môr; a'r môr a ostega i chwi; canys gwn mai o'm hachos i y mae y dymestl fawr hon arnoch chwi.

13Er hyn y gwŷ r a rwyfasant i'w dychwelyd i dir; ond nis gallent; fod y môr yn gweithio, ac yn terfysgu yn eu herbyn hwy.

14Llefasant gan hynny ar yr ARGLWYDD, a dywedasant, Atolwg, ARGLWYDD, atolwg, na ddifether ni am einioes y gw^r hwn, ac na ddyro i'n herbyn waed gwirion: canys ti, O ARGLWYDD, a wnaethost fel y gwelaist yn dda.

15Yna y cymerasant Jona, ac a’i bwriasant ef i'r môr: a pheidiodd y môr a'i gyffro.

16A'r gwŷ r a ofnasant yr ARGLWYDD ag ofn mawr, ac a aberthasant aberth i’r ARGLWYDD, ac a addunasant addunedau.

17A'r ARGLWYDD a ddarparasai bysgodyn mawr i lyncu Jona. A Jona a fu ym mol y pysgodyn dri diwrnod a thair nos.

← Llyfr Obadeia 1Read In The App, Free →Llyfr Jona 2 →

Study Llyfr Jona 1

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234