The Bible Software
bible.software › Llyfr Josua › Llyfr Josua 13 › Llyfr Josua 13:6

Llyfr Josua 13:6

Holl breswylwyr y mynydd- dir o Libanus hyd Misrephoth-maim, a’r holl Sidoniaid, y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel: yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth, fel y gorchymynais i ti.

Beibl (1620)

In The King James Version

All the inhabitants of the hill country from Lebanon unto Misrephoth-maim, and all the Sidonians, them will I drive out from before the children of Israel: only divide thou it by lot unto the Israelites for an inheritance, as I have commanded thee.

In Context

5A gwlad y Gibliaid, a holl Libanus, tu a chyfodiad haul, o Baal-Gad dan fynydd Hermon, nes dyfod i Hamath.

7Ac yn awr rhan di y wlad hon yn etifeddiaeth i’r naw llwyth, ac i hanner llwyth Manasseh.

Read all of Llyfr Josua 13

Cross References

Exodus 23:30O fesur ychydig ac ychydig y gyrraf hwynt allan o’th flaen di, nes i ti gynnyddu ac etifeddu y tir.

Numbers 33:54Rhennwch hefyd y tir yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren; i’r aml chwanegwch ei etifeddiaeth, ac i’r anaml prinhêwch ei etifeddiaeth: bydded eiddo pob un y man lle yr êl y coelbren allan iddo; yn ol llwythau eich tadau yr etifeddwch.

Joshua 11:8A’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn llaw Israel; a hwy a’u tarawsant hwynt, ac a’u herlidiasant hyd Sidon fawr, ac hyd Misrephoth-maim, ac hyd glyn Mispeh o du y dwyrain; a hwy a’u tarawsant hwynt, fel na adawodd efe o honynt un y’ngweddill.

Joshua 14:1Caleb trwy ragorfraint yn cael Hebron. Dyma hefyd y gwledydd a etifeddodd meibion Israel yng ngwlad Canaan, y rhai a rannodd Eleazar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau cenedl llwythau meibion Israel, iddynt hwy i’w hetifeddu.

Joshua 23:5A’r Arglwydd eich Duw a’u hymlid hwynt o’ch blaen chwi, ac a’u gyrr hwynt ymaith allan o’ch gŵydd chwi; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt, megis y dywedodd yr Arglwydd eich Duw wrthych.

Judges 2:21Ni chwanegaf finnau yrru ymaith o’u blaen hwynt neb o’r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw:

This Verse In Other Editions

King James VersionBíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)Библия (Русский)新标点和合本성경 (한국어)الكتاب المقدس باللغة العربية، فان دايكBibbia Diodati (Italiano)Kinh Thánh (Tiếng Việt)Biblia Cornilescu (Română)Polish Biblia Gdanska (1881)Statenvertaling (Nederlands)

Study Llyfr Josua 13:6

Matthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)
← Llyfr Josua 13:5Llyfr Josua 13Llyfr Josua 13:7 →