The Bible Software
Llyfr Josua · Beibl (1620)

Llyfr Josua 13

1a hanner llwyth Mnasseh. A phan heneiddiodd Josua, a phwyso o hono mewn oedran, dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Tydi a heneiddiaist, daethost i ddyddiau oedrannus, a thir lawer iawn sydd etto i’w feddiannu.

2Dyma y wlad sydd etto yn ol: holl derfynau y Philistiaid, a holl Gesuri,

3O Sihor, yr hon sydd o flaen yr Aipht, hyd derfyn Ecron tu a’r gogledd, yr hwn a gyfrifir i’r Canaaneaid: pùm tywysog y Philistiaid: y Gazathiaid, a’r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Githiaid, yr Ecroniaid; yr Afiaid:

4O’r dehau, holl wlad y Canaaneaid, a’r ogof oedd yn ymyl y Sidoniaid, hyd Aphec, hyd derfyn yr Amoriaid:

5A gwlad y Gibliaid, a holl Libanus, tu a chyfodiad haul, o Baal-Gad dan fynydd Hermon, nes dyfod i Hamath.

6Holl breswylwyr y mynydd- dir o Libanus hyd Misrephoth-maim, a’r holl Sidoniaid, y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel: yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth, fel y gorchymynais i ti.

7Ac yn awr rhan di y wlad hon yn etifeddiaeth i’r naw llwyth, ac i hanner llwyth Manasseh.

8Gyd â’r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a’r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tu a’r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr Arglwydd iddynt;

9O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd y’nghanol y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon:

10A holl ddinasoedd Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon;

11Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salchah;

12Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrei; efe a adawyd o weddill y cawri: canys Moses a’u tarawsai hwynt, ac a’u gyrrasai ymaith.

13Ond meibion Israel ni yrrasant allan y Gesuriaid na’r Maachathiaid; eithr trigodd y Gesuriaid a’r Maachathiaid ym mhlith Israel hyd y dydd hwn.

14Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd Arglwydd Dduw Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho.

15¶ A Moses a roddasai i lwyth meibion Reuben etifeddiaeth trwy en teuluoedd:

16A’u terfyn hwynt oedd o Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd y’nghanol y dyffryn, a’r holl wastadedd wrth Medeba;

17Hesbon a’i holl ddinasoedd, y rhai sydd yn y gwastadedd; Dibon, a Bamoth-Baal, a Beth-Baal-meon;

18Jahasah hefyd, a Cedemoth, a Mephaath;

19Ciriathaim hefyd, a Sibmah, a Sareth-sahar, ym mynydd-dir y glyn;

20Beth-peor hefyd, ac Asdoth-Pisgah, a Beth-Jesimoth,

21A holl ddinasoedd y gwastad edd, a holl frenhiniaeth Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro, gyd â thywysogion Midian, Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, duciaid Sehon, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad.

22¶ Balaam hefyd mab Beor, y dewin, a laddodd meibion Israel â’r cleddyf, ym mhlith eu lladdedigion hwynt.

23A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a’ i goror. Dyma etifeddiaeth meibion Reuben, yn ol eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefi.

24¶ Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i lwyth Gad, sef i feibion Gad, trwy eu teuluoedd;

25A Jazer oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlad meibion Ammon, hyd Aroer, yr hon sydd o flaen Rabbah;

26Ac o Hesbon hyd Ramath-Mispeh, a Betonim; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir;

27Ac yn y dyffryn, Beth-Aram, a Beth-Nimrah, a Succoth, a Saphon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenhin Hesbon, yr Iorddonen a’i therfyn, hyd gwrr môr Cinneroth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain.

28Dyma etifeddiaeth meibion Gad, yn ol eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefydd.

29¶ Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i hanner llwyth Manasseh: a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse, yn ol eu teuluoedd:

30A’u terfyn hwynt oedd o Mahanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenhin Basan, a holl drefi Jair, y rhai sydd yn Basan, tri ugain dinas;

31A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan, a roddodd efe i feibion Machir mab Manasseh, sef i hanner meibion Machir, yn ol eu teuluoedd.

32Dyma y gwledydd a roddodd Moses i’w hetifeddu, yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen a Jericho, o du y dwyrain.

33Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: Arglwydd Dduw Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt, fel y llefarodd efe wrthynt.

← Llyfr Josua 12Read In The App, Free →Llyfr Josua 14 →

Study Llyfr Josua 13

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324