Llyfr Josua 2:11
A phan glywsom, yna y’n digalonnwyd, fel na safodd mwyach gysur yn neb, rhag eich ofn: canys yr Arglwydd eich Duw, efe sydd Dduw yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 15:14Y bobloedd a glywant, ac a ofnant: dolur a ddeil breswylwyr Palestina.
Deuteronomy 1:28I ba le yr awn i fynu? ein brodyr a’n digalonnasant ni, gan ddywedyd, Pobl fwy a hŵy na nyni ydynt; dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd: meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno.
Deuteronomy 20:8Y llywiawdwyr hefyd a chwanegant lefaru wrth y bobl, ac a ddywedant, Pa wr sydd ofnus a meddal galon? eled a dychweled i’w dŷ, fel na lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntau.
Joshua 5:1Angel yn ymddangos i Josua. Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen tu a’r gorllewin, a holl frenhinoedd y Canaaneaid, y rhai oedd wrth y môr, sychu o’r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy drwodd; yna y digalonnwyd hwynt, fel nad oedd yspryd mwyach ynddynt, rhag ofn meibion Israel.
Joshua 9:24A hwy a attebasant Josua, ac a ddywedasant, Yn ddïau gan fynegi y mynegwyd i’th weision, ddarfod i’r Arglwydd dy Dduw orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon, a difetha holl drigolion y wlad o’ch blaen chwi; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes, ac y gwnaethom y peth hyn.
1 Kings 8:60Fel y gwypo holl bobl y ddaear mai yr ARGLWYDD sydd DDUW, ac nad oes arall. º