Llyfr Josua 2
1Eu dychweliad a’u newyddion hwynt. A Josua mab Nun a anfonodd o Sittim ddau wr, i chwilio yn ddirgel, gan ddywedyd, Ewch, edrychwch y wlad, a Jericho. A hwy a aethant, ac a ddaethant i dŷ putteinwraig a’i henw Rahab, ac a lettyasant yno.
2A mynegwyd i frenhin Jericho, gan ddywedyd, Wele, gwŷr a ddaethant yma heno, o feibion Israel, i chwilio y wlad.
3A brenhin Jericho a anfonodd at Rahab, gan ddywedyd, Dwg allan y gwŷr a ddaeth attat, y rhai a ddaeth i’th dŷ di; canys i chwilio yr holl wlad y daethant.
4Ond y wraig a gymmerasai y ddau wr, ac a’u cuddiasai hwynt, ac a ddywedodd fel hyn; Gwŷr a ddaeth attaf fi, ond ni wyddwn i o ba le y daethent hwy.
5A phan gauwyd y porth yn y tywyllwch, y gwŷr a aeth allan; ni wn i ba le yr aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hol hwynt; canys chwi a’u goddiweddwch hwynt.
6Ond hi a barasai iddynt esgyn i nen y tŷ, ac a’u cuddiasai hwynt mewn bolldeidiau llin, y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ.
7A’r gwŷr a ganlynasant ar eu hol hwynt, tu a’r Iorddonen, hyd y rhydau: a’r porth a gauwyd, cyn gynted ag yr aeth y rhai oedd yn erlid ar eu hol hwynt allan.
8¶ A chyn iddynt hwy gysgu, hi a aeth i fynu attynt hwy ar nen y tŷ:
9A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o’r Arglwydd i chwi y wlad; o herwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonnasant rhag eich ofn.
10Canys ni a glywsom fel y sychodd yr Arglwydd ddyfroedd y môr coch o’ch blaen chwi, pan ddaeth och allan o’r Aipht; a’r hyn a wnaethoch i ddau frenhin yr Amoriaid, y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen, sef i Sehon ac i Og, y rhai a ddifrodasoch chwi.
11A phan glywsom, yna y’n digalonnwyd, fel na safodd mwyach gysur yn neb, rhag eich ofn: canys yr Arglwydd eich Duw, efe sydd Dduw yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod.
12Yn awr gan hynny, tyngwch, attolwg, wrthyf, myn yr Arglwydd, o herwydd i mi wneuthur trugaredd â chwi, y gwnewch chwithau hefyd drugaredd â thŷ fy nhad innau; ac y rhoddwch i mi arwydd gwir:
13Ac y cedwch yn fyw fy nhad, a’m mam, a’m brodyr, a’m chwïorydd, a’r hyn oll sydd ganddynt, ac y gwaredwch ein heinioes rhag angau.
14A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Ein heinioes a roddwn i farw drosoch, (os chwi ni fynegwch ein neges hyn,) pan roddo yr Arglwydd i ni y wlad hon, oni wnawn â chwi drugaredd a gwirionedd.
15Yna hi a’u gollyngodd hwynt i waered wrth raff trwy y ffenestr: canys ei thŷ hi oedd ar fur y ddinas, ac ar y mur yr oedd hi yn trigo.
16A hi a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r mynydd, rhag i’r erlidwyr gyfarfod â chwi: ac ymguddiwch yno dridiau, nes dychwelyd yr erlidwyr; ac wedi hynny ewch i’ch ffordd.
17A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Dïeuog fyddwn ni oddi wrth dy lw yma â’r hwn y’n tyngaist.
18Wele, pan ddelom ni i’r wlad, rhwym y llinyn yma o edau goch yn y ffenestr y gollyngaist ni i lawr trwyddi: casgl hefyd dy dad, a’th fam, a’th frodyr, a holl dylwyth dy dad, attat i’r tŷ yma.
19A phwy bynnag a êl o ddrysau dy dŷ di allan i’r heol, ei waed ef fydd ar ei ben ei hun, a ninnau a fyddwn ddïeuog: a phwy bynnag fyddo gyd â thi yn tŷ, bydded ei waed ef ar ein pennau ni, o bydd llaw arno ef.
20Ac os mynegi di ein neges hyn, yna y byddwn ddïeuog oddi wrth dy lw â’r hwn y’n tyngaist.
21A hi a ddywedodd, Yn ol eich geiriau, felly y byddo hynny. Yna hi a’u gollyngodd hwynt; a hwy a aethant ymaith. A hi a rwymodd y llinyn coch yn y ffenestr.
22A hwy a aethant, ac a ddaethant i’r mynydd; ac a arhosasant yno dridiau, nes i’r erlidwyr ddychwelyd. A’r erlidwyr a’u ceisiasant ar hyd yr holl ffordd; ond nis cawsant.
23¶ Felly y ddau wr a ddychwelasant, ac a ddisgynasant o’r mynydd, ac a aethant drosodd, a daethant at Josua mab Nun; a mynegasant iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddynt:
24A dywedasant wrth Josua, Yn ddïau yr Arglwydd a roddodd yr holl wlad yn ein dwylaw ni; canys holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag ein hofn ni.