Llyfr Josua 2:3
A brenhin Jericho a anfonodd at Rahab, gan ddywedyd, Dwg allan y gwŷr a ddaeth attat, y rhai a ddaeth i’th dŷ di; canys i chwilio yr holl wlad y daethant.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 42:9A Joseph a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe am danynt hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Ysbïwyr ydych chwi; i edrych noethder y wlad y daethoch.
Leviticus 24:14Dwg y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll: a rhodded pawb a’i clywsant ef eu dwylaw ar ei ben ef, a llabyddied yr holl gynnulleidfa ef.
Judges 4:20Dywedodd hefyd wrthi, Saf wrth ddrws y babell; ac os daw neb i mewn, a gofyn i ti, a dywedyd, A oes yma neb? yna dywed dithau, Nac oes.
1 Chronicles 19:3A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun, Ai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd yn dy dyb di, am iddo anfon cysurwyr atat ti? onid i chwilio, ac i ddifetha, ac i droedio y wlad, y daeth ei weision ef atat ti? º
John 19:4Peilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai.
Acts 12:6A phan oedd Herod â’i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a’r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar.