Llyfr Josua 2:5
A phan gauwyd y porth yn y tywyllwch, y gwŷr a aeth allan; ni wn i ba le yr aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hol hwynt; canys chwi a’u goddiweddwch hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 2:7A’r gwŷr a ganlynasant ar eu hol hwynt, tu a’r Iorddonen, hyd y rhydau: a’r porth a gauwyd, cyn gynted ag yr aeth y rhai oedd yn erlid ar eu hol hwynt allan.
Nehemiah 13:19A phan dywyllasai pyrth Jerwsalem cyn y Saboth, yr erchais gau’r dorau, ac a orchmynnais nad agorid hwynt hyd wedi’r Saboth: a mi a osodais rai o’m gweision wrth y pyrth, fel na ddelai baich i mewn ar ddydd y Saboth.
Jeremiah 50:20Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechodau Jwda, ond nis ceir hwynt: canys myfi a faddeuaf i’r rhai a weddillwyf. º
Ezekiel 47:12Ac wrth yr afon y cyfyd, ar ei min o'r ddeutu, bob pren ymborth; ei ddalen ni syrth, a'i ffrwyth ni dderfydd: yn ei fisoedd y dwg ffrwyth newydd; oherwydd ei ddyfroedd, hwy a ddaethant allan o'r cysegr: am hynny y bydd ei ffrwyth yn ymborth, a'i ddalen yn feddyginiaeth.
Revelation 21:25A'i phyrth hi ni chaeir ddim y dydd: canys ni bydd nos yno.