Llyfr Josua 21:4
A daeth y coelbren allan dros deuluoedd y Cohathiaid: ac yr oedd i feibion Aaron yr offeiriad, y rhai oedd o Lefiaid, allan o lwyth Judah, ac o lwyth Simeon, ac o lwyth Benjamin, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 6:16¶ Dyma hefyd enwau meibion Lefi, yn ol eu cenhedlaethau; Gerson, Cohath hefyd, Merari: a blynyddoedd oes Lefi oedd gant ac onid tair blynedd deugain.
Joshua 21:8A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn, a’u meusydd pentrefol, fel y gorchymynasai yr Arglwydd trwy law Moses, wrth goelbren.
Joshua 24:33¶ Ac Eleazar mab Aaron a fu farw: a chladdasant ef ym mryn Phinees ei fab, yr hwn a roddasid iddo ef ym mynydd Ephraim.
1 Chronicles 6:54A dyma eu trigleoedd hwynt yn ôl eu palasau, yn eu terfynau; sef meibion Aaron, o dylwyth y Cohathiaid: oblegid o eiddynt hwy ydoedd y rhan hon.