The Bible Software
Llyfr Josua · Beibl (1620)

Llyfr Josua 21

1Duw yn rhoddi y wlad, a llonyddwch i’r Israeliaid, yn ol ei addewid. Yna pennau tadau y Lefiaid a nesasant at Eleazar yr offeiriad, ac at Josua mab Nun, ac at bennau tadau llwythau meibion Israel;

2Ac a lefarasant wrthynt yn Siloh, o fewn gwlad Canaan, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a orchymynodd, trwy law Moses, roddi i ni ddinasoedd i drigo, a’u meusydd pentrefol i’n hanifeiliaid.

3A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid o’u hetifeddiaeth, wrth orchymyn yr Arglwydd, y dinasoedd hyn a’u meusydd pentrefol.

4A daeth y coelbren allan dros deuluoedd y Cohathiaid: ac yr oedd i feibion Aaron yr offeiriad, y rhai oedd o Lefiaid, allan o lwyth Judah, ac o lwyth Simeon, ac o lwyth Benjamin, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren.

5Ac i’r rhan arall o feibion Cohath yr oedd, o deuluoedd llwyth Ephraim, ac o lwyth Dan, ac o hanner llwyth Manasseh, ddeg dinas, wrth goelbren.

6Ac i feibion Gerson yr oedd, o deuluoedd llwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Naphtali, ac o hanner llwyth Manasseh yn Basan, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren.

7I feibion Merari, wrth eu teuluoedd, yr oedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Zabulon, ddeuddeg o ddinasoedd.

8A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn, a’u meusydd pentrefol, fel y gorchymynasai yr Arglwydd trwy law Moses, wrth goelbren.

9¶ A hwy a roddasant, o lwyth meibion Judah, ac o lwyth meibion Simeon, y dinasoedd hyn a enwir erbyn eu henwau;

10Fel y byddent i feibion Aaron, o deuluoedd y Cohathiaid, o feibion Lefi: canys iddynt hwy yr oedd y coelbren cyntaf.

11A rhoddasant iddynt Gaer-Arba, tad Anac, honno yw Hebron, ym mynydd- dir Judah, a’i meusydd pentrefol oddi amgylch.

12Ond maes y ddinas, a’i phentrefydd, a roddasant i Caleb mab Jephunneh, yn etifeddiaeth iddo ef.

13¶ Ac i feibion Aaron yr offeiriad y rhoddasant Hebron a’i meusydd pentrefol, yn ddinas nodded i’r llofrudd; a Libnah a’i meusydd pentrefol,

14A Jattir a’i meusydd pentrefol, ac Estemoa a’i meusydd pentrefol,

15A Holon a’i meusydd pentrefol, a Debir a’i meusydd pentrefol,

16Ac Ain a’i meusydd pentrefol, a Juttah a’i meusydd pentrefol, a Beth-semes a’i meusydd pentrefol: naw dinas o’r ddau lwyth hynny.

17Ac o lwyth Benjamin, Gibeon a’i meusydd pentrefol, a Geba a’i meusydd pentrefol,

18Anathoth a’i meusydd pentrefol, ac Almon a’i meusydd pentrefol: pedair dinas.

19Holl ddinasoedd meibion Aaron, yr offeiriaid, oedd dair dinas ar ddeg, a’u meusydd pentrefol.

20¶ A chan deuluoedd meibion Cohath, y Lefiaid, y rhan arall o feibion Cohath, yr oedd dinasoedd eu coelbren o lwyth Ephraim.

21A hwy a roddasant iddynt yn ddinas nodded y lleiddiad, Sichem a’i meusydd pentrefol, ym mynydd Ephraim, a Gezer a’i meusydd pentrefol,

22A Cibsaim a’i meusydd pentrefol, a Beth-horon a’i meusydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.

23Ac o lwyth Dan, Elteceh a’i meusydd pentrefol, Gibbethon a’i meusydd pentrefol,

24Ajalon a’i meusydd pentrefol, Gath-Rimmon a’i meusydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.

25Ac o hanner llwyth Manasseh, Tanac a’i meusydd pentrefol, a Gath-Rimmon a’i meusydd pentrefol: dwy ddinas.

26Yr holl ddinasoedd, y rhai oedd eiddo y rhan arall o deuluoedd meibion Cohath, oedd ddeg, a’u meusydd pentrefol.

27¶ Ac i feibion Gerson, o deuluoedd y Lefiaid, y rhoddasid, o hanner arall llwyth Manasseh, yn ddinas nodded y llofrudd, Golan yn Basan a’i meusydd pentrefol, a Beesterah a’i meusydd pentrefol: dwy ddinas.

28Ac o lwyth Issachar, Cison a’i meusydd pentrefol, Dabareth a’i meusydd pentrefol,

29Jarmuth a’i meusydd pentrefol, En-gannim a’i meusydd pentrefol: pedair dinas.

30Ac o lwyth Aser, Misal a’i meusydd pentrefol, Abdon a’i meusydd pentrefol,

31Helcath a’i meusydd pentrefol, a Rehob a’i meusydd pentrefol: pedair dinas.

32Ac o lwyth Naphtali, yn ddinas nodded y lleiddiad, Cedes yn Galilee a’i meusydd pentrefol, a Hammoth-dor a’i meusydd pentrefol, a Cartan a’i meusydd pentrefol: tair dinas.

33Holl ddinasoedd y Gersoniaid, yn ol eu teuluoedd, oedd dair dinas ar ddeg, a’u meusydd pentrefol.

34¶ Ac i deuluoedd meibion Merari, y rhan arall o’r Lefiaid, y rhoddasid, o lwyth Zabulon, Jocneam a’i meusydd pentrefol, a Cartah a’i meusydd pentrefol,

35Dimnah a’i meusydd pentrefol, Nahalal a’i meusydd pentrefol: pedair dinas.

36Ac o lwyth Reuben, Beser a’i meusydd pentrefol, a Jahasah a’i meusydd pentrefol,

37Cedemoth a’i meusydd pentrefol, Mephaath a’i meusydd pentrefol: pedair dinas.

38Ac o lwyth Gad, yn ddinas noddfa y llofrudd, Ramoth yn Gilead a’i meusydd pentrefol, a Mahanaim a’i meusydd pentrefol,

39Hesbon a’i meusydd pentrefol, Jazer a’i meusydd pentrefol; pedair dinas o gwbl.

40Holl ddinasoedd meibion Merari, yn ol eu teuluoedd, sef y rhan arall o deuluoedd y Lefiaid, oedd, wrth eu coelbren, ddeuddeng ninas.

41Holl ddinasoedd y Lefiaid, ym meddiant meibion Israel, oedd wyth ddinas a deugain, a’u meusydd pentrefol.

42Y dinasoedd hyn oedd bob un a’u meusydd pentrefol o’u hamgylch. Felly yr oedd yr holl ddinasoedd hyn.

43¶ A’r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt: a hwy a’i meddiannasant hi, ac a wladychasant ynddi.

44Yr Arglwydd hefyd a roddodd lonyddwch iddynt hwy o amgylch, yn ol yr hyn oll a dyngasai efe wrth eu tadau hwynt; ac ni safodd neb yn eu hwyneb hwynt o’u holl elynion; eu holl elynion a roddodd yr Arglwydd yn eu dwylaw hwynt.

45Ni phallodd dim o’r holl bethau da a lefarasai yr Arglwydd wrth dŷ Israel: daeth y cwbl i ben.

← Llyfr Josua 20Read In The App, Free →Llyfr Josua 22 →

Study Llyfr Josua 21

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324