Llyfr Josua 21:43
¶ A’r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt: a hwy a’i meddiannasant hi, ac a wladychasant ynddi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 12:7A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.
Genesis 15:13Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, y bydd dy had di yn ddïeithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a’u gwasanaethant, a hwythau a’u cystuddiant bedwar càn mlynedd.
Genesis 28:4Ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i’th had gyd â thi, i etifeddu ohonot dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd Duw i Abraham.
Exodus 3:8A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Aiphtiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid.
Numbers 34:2Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch chwi i dir Canaan, (dyma y tir a syrth i chwi yn etifeddiaeth, sef gwlad Canaan a’i therfynau,)
Deuteronomy 12:29¶ Pan ddinystrio yr Arglwydd dy Dduw y cenhedloedd, y rhai yr wyt ti yn myned attynt i’w meddiannu, o’th flaen di, a dyfod o honot yn eu lle hwynt, a’ phreswylio yn eu tir hwynt: