Llyfr Josua 3:13
A phan orphwyso gwadnau traed yr offeiriaid, sydd yn dwyn arch Arglwydd Ior yr holl fyd, yn nyfroedd yr Iorddonen, yna dyfroedd yr Iorddonen a dorrir ymaith oddi wrth y dyfroedd sydd yn disgyn oddi uchod: hwy a safant yn bentwr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12Gan hynny cymmerwch yn awr ddeuddengwr o lwythau Israel, un gwr o bob llwyth.
Cross References
Exodus 14:19¶ Ac angel Duw, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symmudodd, ac a aeth o’u hol hwynt; a’r golofn niwl a aeth ymaith o’u tu blaen hwynt, ac a safodd o’u hol hwynt.
Joshua 3:11Wele arch cyfammod Arglwydd yr holl ddaear yn myned o’ch blaen chwi i’r Iorddonen.
1 Chronicles 29:11I ti, ARGLWYDD, y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruchafiaeth, a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti; y deyrnas sydd eiddot ti, ARGLWYDD, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth. º
Psalms 78:13Dy ffordd, O DDUW, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr â’n DUW ni?
Isaiah 54:5Canys dy briod yw yr hwn a’th wnaeth; ARGLWYDD-y lluoedd yw ei enw: dy Waredydd hefyd, Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir ef. º
Zechariah 4:14Ac efe a ddywedodd, Dyma y ddwy gainc olewydden sydd yn sefyll gerbron ARGLWYDD yr holl ddaear.