The Bible Software
Llyfr Josua · Beibl (1620)

Llyfr Josua 3

1Hollti dyfroedd yr Iorddonen. A Josua a gyfododd yn fore, a chychwynasant o Sittim, a daethant hyd yr Iorddonen, efe a holl feibion Israel: lletyasant yno, cyn iddynt fyned drosodd.

2Ac ym mhen y tridiau, y llywiawdwyr a dramwyasant trwy ganol y llu;

3Ac a orchymynasant i’r bobl, gan ddywedyd, Pan weloch chwi arch cyfammod yr Arglwydd eich Duw, a’r offeiriaid y Lefiaid yn ei dwyn hi; yna cychwynwch chwi o’ch lle, ac ewch ar ei hol hi.

4Etto bydded ennyd rhyngoch chwi a hithau, ynghylch dwy fil o gufyddau wrth fesur: na nesêwch atti, fel y gwypoch y ffordd y rhodioch ynddi: canys ni thramwyasoch y ffordd hon o’r blaen.

5A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ymsancteiddiwch: canys y fory y gwna yr Arglwydd ryfeddodau yn eich mysg chwi.

6Josua hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid, gan ddywedyd, Codwch arch y cyfammod, ac ewch drosodd o flaen y bobl. A hwy a godasant arch y cyfammod, ac a aethant o flaen y bobl.

7¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhâu di y’ngŵydd holl Israel: fel y gwypont, mai megis y bûm gyd â Moses, y byddaf gyd â thithau.

8Am hynny gorchymyn di i’r offeiriaid sydd yn dwyn arch y cyfammod, gan ddywedyd, Pan ddelych hyd gwrr dyfroedd yr Iorddonen, sefwch yn yr Iorddonen.

9¶ A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Nesêwch yma, a gwrandêwch eiriau yr Arglwydd eich Duw.

10Josua hefyd a ddywedodd, Wrth hyn y cewch wybod fod y Duw byw yn eich mysg chwi; a chan yrru y gyrr efe allan y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Hefiaid, a’r Phereziaid, a’r Girgasiaid, yr Amoriaid hefyd, a’r Jebusiaid, o’ch blaen chwi.

11Wele arch cyfammod Arglwydd yr holl ddaear yn myned o’ch blaen chwi i’r Iorddonen.

12Gan hynny cymmerwch yn awr ddeuddengwr o lwythau Israel, un gwr o bob llwyth.

13A phan orphwyso gwadnau traed yr offeiriaid, sydd yn dwyn arch Arglwydd Ior yr holl fyd, yn nyfroedd yr Iorddonen, yna dyfroedd yr Iorddonen a dorrir ymaith oddi wrth y dyfroedd sydd yn disgyn oddi uchod: hwy a safant yn bentwr.

14¶ A phan gychwynodd y bobl o’u pebyll, i fyned dros yr Iorddonen, a’r offeiriaid oedd yn dwyn arch y cyfammod o flaen y bobl;

15A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriaid, oedd yn dwyn yr arch, y’nghwrr y dyfroedd, (a’r Iorddonen a lanwai dros ei glannau oll holl ddyddiau y cynhauaf,)

16Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr ym mhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan: a’ r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos, sef i’r môr heli, a ddarfuant, ac a dorrwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho.

17A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfammod yr Arglwydd, a safasant ar dir sych, y’nghanol yr Iorddonen, yn daclus: a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i’r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen.

← Llyfr Josua 2Read In The App, Free →Llyfr Josua 4 →

Study Llyfr Josua 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324