Llyfr Josua 4:9
A Josua a osododd i fynu ddeuddeg carreg y’nghanol yr Iorddonen, yn y lle yr oedd traed yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch y cyfammod, yn sefyll: ac y maent yno hyd y dydd hwn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 28:18A Jacob a gyfododd yn fore, ac a gymmerth y garreg a osodasai efe dan ei ben, ac efe a’i gosododd hi yn golofn, ac a dywalltodd olew ar ei phen hi.
Exodus 28:21A’r meini fyddant âg enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ol eu henwau hwynt; o naddiad sêl, bob un wrth ei enw y byddant, yn ol y deuddeg llwyth.
Joshua 24:26¶ A Josua a ysgrifenodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith Dduw, ac a gymmerth faen mawr, ac a’i gosododd i fynu yno dan dderwen oedd yn agos i gyssegr yr Arglwydd.
1 Samuel 7:12A chymerodd Samuel faen, ac a’i gosododd rhwng Mispa a Sen, ac a alwodd ei enw ef Ebeneser; ac a ddywedodd, Hyd yma y cynorthwyodd yr ARGLWYDD nyni.
2 Samuel 4:3A’r Beerothiaid a ffoesent i Gittaim, ac a fuasent yno yn ddieithriaid hyd y dydd hwn.)
2 Chronicles 5:9A thynasant allan y trosolion, fel y gwelid pennau y trosolion o’r arch o flaen y gafell, ac ni welid hwynt oddi allan. Ac yno y mae hi hyd y dydd hwn.